Home » People » Dr Olwen Williams

Dr Olwen Williams

Is Lywydd Cymru

Mae Dr Olwen Williams yn Is Lywydd Cymru Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) ac yn aelod o gyfadran Gwella Ansawdd y RCP.

Mae’n feddyg ymgynghorol mewn meddygaeth cenhedol-wrinol/HIV yng ngogledd Cymru, ac yn 2005, derbyniodd yr OBE am wasanaethau i feddygaeth. Drwy gydol ei gyrfa, mae Olwen wedi ceisio sicrhau bod pobl sy’n agored i niwed yn cael mynediad at ofal iechyd o ansawdd uchel. Mae ei diddordeb mewn anghydraddoldebau iechyd yn golygu ei bod wedi arloesi mewn gwasanaethau i gleifion HIV, atgyfeiriadau ymosodiadau rhywiol, iechyd rhywiol mewn carchardai a chlinigau rhithiol i gleifion allanol, ac mae wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, yn enwedig wrth eu cynghori ar ddatblygu strategaeth iechyd rhywiol i Gymru.

Tra’n bennaeth staff bwrdd iechyd mwyaf Cymru, cafodd ddealltwriaeth fanwl o gymhlethdodau a heriau cyflwyno newid ar draws system gyfan mewn gofal wedi’i gynllunio, gofal heb ei gynllunio a gofal cymunedol yng nghyd-destun targedau a chyfyngiadau ariannol. Fel arweinydd clinigol un o brosiectau safle datblygu Ysbytai’r Dyfodol y RCP, cefnogodd y broses o gyflwyno clinigau rhithiol mewn ardaloedd anghysbell a gwledig yng ngogledd orllewin Cymru. Bu’n Llywydd Cymdeithas Iechyd Rhywiol a HIV Prydain (BASHH), ac yn ddiweddar, cafodd ei hethol yn aelod o Gyngor y RCP. Fel aelod o Gyd-bwyllgor Arbenigedd y RCP mewn Meddygaeth Genhedol-wrinol, cyd-ysgrifennodd y bennod arbenigol ar gyfer y wefan Gofal Meddygol.