Blog

13/12/23

13 December 2023

Gweithio dros y gwyliau | llawenydd, braint, euogrwydd, her

Dr Hilary Williams NEW

Wrth i ni nesáu at ddiwedd 2023, mae’r tywydd yn llwm, yn wlyb ac yn oer. Rwy'n teimlo’n fyfyriol iawn wrth feddwl am 12 mis prysur: dyma’r flwyddyn y soniodd llawer o feddygon o’r diwedd am y bwlio a’r casineb y mae llawer o bobl yn eu hwynebu mewn meddygaeth. Mae llawer o waith i’w wneud, ac er nad yw geiriau ar eu pen eu hunain yn arwain at weithredu, mae’n teimlo fel dechrau rhywbeth. Diolch i bawb sydd wedi rhannu eu profiadau.

Dyma hefyd y flwyddyn y pasiwyd Bil Aer Glân yng Nghymru – Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) – ac amlinellodd Llywodraeth y DU gynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd plant a aned ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009 rhag prynu sigaréts yn gyfreithlon.

Rwyf wedi bod yn fy swydd fel is-lywydd ers bron i 6 mis bellach. Rwy’n benderfynol bod Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru wir yn gwerthfawrogi ac yn gwrando ar bob meddyg. Ond wrth gwrs, dim ond cyn gryfed â’i aelodau yw llais y coleg, felly dylech gynnig eich cydweithwyr i ddod yn gymrodyr yn 2024, yn enwedig ymgynghorwyr newydd a meddygon arbenigol ac arbenigol cysylltiol (SAS).

Cyfnod gorau’r flwyddyn

Pwy sydd ddim yn teimlo’n nerfus wrth agor y rota ar gyfer y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd? Beth bynnag sy’n digwydd, mae’n rhaid i rywun weithio yn ystod cyfnod y Nadolig a’r dyddiau yn y canol pan mae’n teimlo fel bod gweddill y byd yn gorwedd ar y soffa. Does dim dwywaith bod gweithio tra mae eraill yn dathlu yn anodd, ond mae hefyd yn dipyn o her mynd i’r afael â rownd ward ar ôl gwyliau, ac rydw i’n ei chael hi’n anoddach fyth siarad â phobl am ganlyniadau sgan anodd, gan wybod y dylai fod yn gyfnod hapus i bobl.

Rwy’n teimlo’n falch iawn o ddod o deulu sy’n llawn menywod sy’n feddygon. Mae fy modryb 90 oed yn dweud ei bod wedi gorfod gweithio dros y Nadolig yn syth ar ôl cyrraedd y cam clinigol yn yr ysgol feddygaeth. Roedd yr athro meddygaeth yn sleisio’r twrci, ac roedd disgwyl i fyfyrwyr meddygol helpu i weini’r bwyd – mae’n amlwg nad oedd dewis os oeddech chi eisiau graddio!

Yn ddelfrydol, byddwn yn treulio Nos Galan ar ben mynydd, ond fel meddyg newydd yng Nghaeredin, roeddwn i’n gweithio fel uwch swyddog preswyl yn yr ‘Old Royal’, ac fel yr aelod newydd o staff, roeddwn i ar alwad yn y CCU ar fy Hogmanay cyntaf. Ond, yn lwcus iawn, roedd to’r ysbyty yn lle delfrydol ar gyfer gwylio’r tân gwyllt yn y castell (gyda’r bwriad o adael yn gyflym yn ôl drwy’r ffenestr pe bai’r larwm arrest bleep yn canu).

Ar-alwad dros y Nadolig

Beth am gydbwyso ein hymrwymiad i’n cleifion â’n hawydd i dreulio amser gyda’n teuluoedd? Trafodais hyn gyda rhai o’m cydweithwyr. Roedd Dr Sam Rice, cynghorydd rhanbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru, ar alwad am 5 mlynedd yn olynol pan oedd ei blant yn fach iawn. Mae ei fechgyn yn eu harddegau bellach ac yn dal i ofyn bob blwyddyn a yw’n mynd i fod gartref. Roedd Sam yn arfer dechrau ei rownd ar y ward am 4:30 ar fore Nadolig er mwyn ceisio mynd adref mewn pryd i agor anrhegion (ond dim ond ddwywaith a lwyddodd i wneud hynny). 

Roedd un hyfforddai yn teimlo’n euog yn methu gallu dathlu gyda’r teulu, ond yn cydnabod fod cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty ar ddydd Nadolig yn aml yn sâl iawn. Mae’n anodd peidio â difaru eich dewisiadau mewn bywyd pan mae eich ffrindiau i gyd allan yn dathlu, tra eich bod chithau’n hapus o weld bod y peiriant gwerthu bwyd a diod yn gweithio am 2am!

A beth am ochr arall y geiniog? Y parafeddygon, y meddygon teulu, y nyrsys, y gweithwyr gofal a’r ymatebwyr brys sydd hefyd yn gofalu am ein hanwyliaid dros yr ŵyl – rydw i mor ddiolchgar i’r timau hyn am bopeth maen nhw’n ei wneud i ni. Rydyn ni i gyd yn y proffesiwn hwn am ein bod ni’n poeni am bobl; rydyn ni eisiau cefnogi ac arwain ein timau drwy’r fraint a’r her o weithio dros yr ŵyl. Rydw i’n gwybod bod llawer o’n cydweithwyr rhyngwladol yng Nghanolfan Ganser Felindre wedi cynnig gweithio dros y Nadolig dros y blynyddoedd – a p’un a ydych chi’n dathlu’r Nadolig ai peidio, a p’un a yw eich teulu yn lleol neu ar wasgar ar draws y byd – rwy’n gobeithio’n fawr y gallwch chi ddod o hyd i amser i ymlacio, amser i fyfyrio ar eich heriau, eich llwyddiannau a’ch profiadau, ac amser i werthfawrogi’r ymrwymiad rydyn ni i gyd wedi’i wneud i gefnogi ein cleifion a’n cydweithwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

Felly, p’un a ydych chi’n gweithio ai peidio yn ystod tymor yr ŵyl, cadwch yn ddiogel, a mwynhewch y Nadolig! (Ac rwy’n gobeithio’n fawr fydd neb yn cael eu cinio Nadolig o beiriant!)

Dr Hilary Williams 
Is-lywydd RCP Cymru 
Oncolegydd meddygol ymgynghorol

Dr Hilary Williams

Vice president for Wales

Hilary Williams 1 (2)