Y mis hwn, mae Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru, Hilary Williams, yn blogio am adroddiad newydd y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar berfformiad a chynhyrchiant yn GIG Cymru, gofal diwedd oes, a’i rôl newydd fel is-lywydd clinigol.
Cafodd y Grŵp Cynghori Gweinidogol (MAG) ei sefydlu fis Hydref diwethaf gan ysgrifennydd y cabinet dros iechyd a gofal cymdeithasol i gynnal adolygiad annibynnol o berfformiad a chynhyrchiant yn GIG Cymru. Y llynedd, roedd cleifion yng Nghymru’n wynebu rhestrau aros hwy nag erioed o’r blaen, gyda rhai’n aros dros 2 flynedd am driniaeth. Mewn cyferbyniad, mae amseroedd aros tebyg wedi cael eu dileu fwy neu lai yn Lloegr. Chwe mis yn ddiweddarach, cyhoeddodd y Grŵp Cynghori Gweinidogol ei argymhellion ar wella perfformiad a chynhyrchiant mewn gofal a gynlluniwyd, diagnosteg, canser a gwasanaethau gofal brys ac argyfwng.
Mae’r argymhellion yn tynnu sylw’n briodol at faterion brys mewn gwasanaethau aciwt ac roeddem yn arbennig o falch o weld amserlen i’w gweithredu yn ystod y 3-6 mis nesaf. Mae ein hymateb yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod adnoddau ac amser staff ar gael i gyflawni’r adroddiad uchelgeisiol hwn.
Datganiad sefyllfa Coleg Brenhinol y Meddygon
Mae Coleg Brenhinol y Meddygon wedi cyhoeddi datganiad sefyllfa ar y Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) sy’n mynd drwy San Steffan.
Fy rôl newydd fel is-lywydd clinigol
Roeddwn i’n falch iawn o gael fy ethol yn is-lywydd clinigol ar gyfer Coleg Brenhinol y Meddygon. Fel sefydliad aelodaeth, rydw i wir yn gobeithio adeiladu ar ein dull gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys ein haelodau yn y gwaith o ddatblygu polisïau a datblygu cysylltiad cryf â nhw ledled y DU ac yn fyd-eang.
Byddaf yn dechrau yn fy rôl newydd fel is-lywydd clinigol ym mis Awst 2025 a bydd etholiad ar gyfer is-lywydd newydd i Gymru. Bydd Cyngor Coleg Brenhinol y Meddygon yn cymeradwyo ac yn cyfleu’r trefniadau etholiadol a’r amserlen ar gyfer hynny cyn gynted â phosibl, ond am y tro, byddaf yn parhau yn y swydd. Rwy’n siŵr y bydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth a bydd gan Is-lywydd nesaf Cymru sylfaen gref i adeiladu arni.
Ein harolwg meddygon
Nodyn i’ch atgoffa os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny i rannu eich dirnadaeth o’r heriau penodol sy’n wynebu meddygon yng Nghymru yn ein harolwg ‘Ffocws ar feddygon’. Mae barn a phrofiadau meddygon yng Nghymru mor bwysig i’n helpu i ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol. Gallwch gael mynediad at yr arolwg yma – y dyddiad cau yw 2 Mehefin 2025.
Gofal diwedd oes
Yn ddiweddar, cyfarfu tîm Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru â Lynne Hughes o’r elusen Marie Curie i gefnogi ei gwaith i ganfod y problemau systemig sy’n wynebu pobl yn ystod 12 mis olaf eu bywyd, a datblygu dulliau arloesol a theg o wella gofal lliniarol a diwedd oes ledled Cymru.
Gan ein bod yn gwybod bod un o bob 14 o ymweliadau ag adrannau achosion brys yng Nghymru yn rhywun ym mlwyddyn olaf ei fywyd, mae Marie Curie yn awyddus i ddeall y prif ffactorau sy'n sbarduno derbyniadau heb eu cynllunio i'r ysbyty a beth yw rhai o'r atebion posibl yn ein barn ni. Bydd Marie Curie yn hwyluso rhai trafodaethau ar gyfer meddygon preswyl, felly cadwch lygad am y rhain. Mae gan Lynne ddiddordeb hefyd mewn clywed am unrhyw brosiectau gwella ansawdd rydych chi a’ch cydweithwyr o bosibl wedi’u rhoi ar waith i wella gofal diwedd oes. Cysylltwch â hi yn lynne.hughes@mariecurie.org.uk
Yn olaf
Mae gennym lawer o bethau cyffrous ar y gweill ar gyfer mis Mehefin, gan gynnwys cwrdd â’r Prif Swyddog Meddygol newydd yng Nghymru fel rhan o Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru (AoMRC) a mynd i gynhadledd y Blaid Lafur lle byddwn yn cymryd rhan mewn digwyddiad hystings ac yn siarad ag Aelodau o’r Senedd ynghylch pam mae angen cynllun gweithlu tymor hir arnom ar gyfer Cymru.