Blog

29/07/25

29 July 2025

Blog misol is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru – adolygiad Leng, Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) a chynhadledd Llafur

Hospital Staff Working

Mae Awst ar y gorwel unwaith eto, a chroeso cynnes i’n timau meddygon Sylfaen newydd yng Nghymru. Mae’n briodol rhannu gair neu ddau gan ein cynghorwyr rhanbarthol RCP, sydd wedi bod yn myfyrio ar bwysigrwydd y cyngor a drosglwyddwyd iddynt dros y blynyddoedd gan eu mentoriaid eu hunain. Maent yn ein hatgoffa bod gofalu am gleifion a gwneud penderfyniadau a all newid bywydau mewn ymgynghoriad â’u teuluoedd yn fraint ac yn arwydd o’r ymddiriedaeth sydd gan bobl ynom, er gwaethaf yr heriau a brofir mewn gyrfa feddygol a beth bynnag fo lefelau ein profiad. 

Ennill dros Gymru

Llongyfarchiadau i’r tîm ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sydd wedi ennill Gwobr Eric Watts am ymgysylltu â chleifion yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Gofal i Gleifion 2025 RCP. Darllenwch ragor am y wobr hon a'r enillwyr eraill.

Fforwm ymgynghorwyr newydd

Mae gweithlu sydd wedi cael hyfforddiant a chefnogaeth dda yn flaenoriaeth inni bob amser yng Nghymru. Y mis yma, ymunodd Dr Ben Thomas a Dr Sam Rice â’n cynrychiolydd ymgynghorwyr newydd, Dr Dena Pitrola, ar gyfer fforwm Ymgynghorwyr newydd RCP ar y cyd rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon. Cyflwynodd Sam a Ben sesiwn ymarferol, byd-real ar bwysigrwydd cynllunio gwaith realistig a rhannwyd syniadau ar gofnodi mân fanylion bywgraffyddol am gleifion newydd i’n helpu i gofio gwybodaeth allweddol amdanynt a’u bywydau. 

Bu aelodau’r fforwm yn rhannu syniadau am yr hyn a fyddai’n helpu i leihau effeithiau gorweithio a gwella lefelau recriwtio a chadw meddygon. o ffordd fwy hyblyg o gynllunio gwaith i fod yn fwy agored am ein llesiant. Gall meddygaeth fod yn broffesiwn heriol sy’n ein hamlygu ac yn ein cynnwys mewn amrywiaeth eang o brofiadau pobl. Roedd aelodau’r fforwm yn teimlo y byddai bod yn fwy agored am hyn, yn ogystal â mentora a chymorth mwy effeithiol gan gymheiriaid, yn arwain at lawer o fuddiannau i’n proffesiwn.

Byddaf yn rhoi mwy o sylw i gynllunio gwaith â’n tîm prif swyddog meddygol newydd. Mae’n holl bwysig bod ffyrdd newydd o weithio, fel darparu cymorth clinigol i gleifion a thimau amlddisgyblaeth y tu allan i sesiynau sefydlog, yn cael eu cydnabod ac yn cael lle yn ein cynlluniau gwaith.

Adolygiad Leng 

Mae’r adolygiad annibynnol i rôl cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia wedi’i gyhoeddi. Mae’r adolygiad, dan arweiniad yr Athro Gillian Leng, yn canolbwyntio ar Loegr ond mae’n cynnwys canfyddiadau pwysig sy’n berthnasol i bob rhan o’r DU, gan gynnwys y canfyddiad bod hyfforddiant ôl-raddedig yn y DU yn ‘gwbl anfoddhaol’ gyda ‘phreswylwyr yn teimlo’n ynysig a heb gymorth’.

Fel Cadeirydd Grŵp Goruchwylio Cymdeithion Meddygol RCP, roeddwn yn falch o gael ymateb ar ran yr RCP. Mae’r adroddiad yn un meddylgar ac yn adolygiad trylwyr o fater cymhleth dros ben. Mae’n datgan yn glir na ddylai Cymdeithion Meddygol weld cleifion heb eu gwahaniaethu a bod yn rhaid iddynt fod yn atebol i uwch feddyg enwebedig. Mae’n mabwysiadu llawer o’r argymhellion a wnaed gennym yn ein sylwadau, gan gynnwys newid enw’r rôl i gynorthwywyr meddygol. Mae’r RCP wedi cadarnhau y bydd yn dechrau defnyddio’r teitl cynorthwywyr meddygol ar unwaith.

Byddwn yn hybu dull pedair cenedl i weithredu’r canfyddiadau, gan ymgysylltu â’r GMC, GIG ac eraill i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu mewn ffordd ddiogel ac effeithiol.

Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)

Rwyf yn siŵr y bydd y rhan fwyaf ohonoch yn gwybod bod y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) yn awr ar ei ffordd i Dŷ'r Arglwyddi, ar ôl iddo basio’r trydydd darlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Gorffennaf. Ym mis Mai, cyhoeddodd yr RCP ddatganiad safbwynt mewn ymateb i'r bil, gan nodi’r ffactorau allweddol sy’n rhaid eu hamddiffyn yn y ddeddfwriaeth os yw am fod yn gyfraith.

Yng Nghymru, cyflwynwyd y datganiad safbwynt hwnnw i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n cwrdd fis Gorffennaf â’r ysgrifennydd cabinet dros iechyd a gofal cymdeithasol i ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (y dull o alluogi’r Bil Oedolion Terfynol Sâl i fod yn gyfraith yng Nghymru). Nid oes dyddiad wedi’i bennu ar gyfer y ddadl yn y Senedd eto. Ym mis Hydref 2024, pleidleisiodd ASau yn erbyn cynnig yn cefnogi'r egwyddor o farw â chymorth

Cynhadledd y Blaid Lafur

Dychwelodd tîm RCP i haul Llandudno'n ddiweddar ar gyfer cynhadledd y Blaid Lafur. Roeddem yn falch dros ben bod Prif Weinidog Cymru a gweinidog y cabinet dros iechyd a gofal cymdeithasol yno i drafod ein galwadau polisi, ynghyd â llawer o ASau a darpar ymgeiswyr. Byddwn yn parhau i ymgyrchu dros gynllun gweithlu tymor hir sydd â phwyslais clinigol ar gyfer y GIG a gofal cymdeithasol, ac yn enwedig datblygu swyddi gyda setiau sgiliau cywir ac yn y lleoliadau cywir ledled Cymru.

Fframwaith cymhwysedd drafft ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ddrafft terfynol Fframwaith Cymhwysedd Cymru Gyfan ar gyfer Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes. Os hoffech gyfrannu at ymateb RCP, anfonwch e-bost i emily.wooster@rcp.ac.uk erbyn 5 Awst 2025.

Yn olaf, rwy’n siŵr yr hoffech ymuno â mi i longyfarch Jacqui Sullivan, sydd wedi cael dyrchafiad i reoli gwaith swyddfa Gogledd Iwerddon yn ogystal â swyddfa Cymru’r RCP. Mae’r rôl yn bwynt cymorth allweddol i aelodau a meddygon yn y ddwy genedl, ac mae’n cefnogi cynrychiolwyr a rhwydweithiau’r RCP sy’n hanfodol i gysylltu meddygon yng Nghymru a Gogledd Iwerddon â gwaith yr RCP, gan gynnwys dylanwadu ar bolisi, a gweithredu fel cyfrwng i adrodd yn ôl i swyddogion a staff coleg yr RCP ar yr hyn sy’n digwydd yn y cenhedloedd.

Dr Hilary Williams

Vice president for Wales

Hilary Williams 1 (2)