Y mis hwn mae is-lywydd Cymru, Hilary Williams, yn blogio am adroddiad newydd yr RCP ar ansawdd aer a Med 25.
Chwa o awyr iach
Y mis hwn lansiwyd ein hadroddiad newydd Chwa o awyr iach: ymateb i’r heriau y mae llygredd aer yn eu hachosi i’n hiechyd heddiw sy'n cyflwyno gwybodaeth newydd sylweddol o'r degawd diwethaf ac yn dangos bod llygredd aer yn effeithio ar iechyd yn llawer ehangach na chlefyd anadlol yn unig.
Cyfraddau marwolaethau ac effeithiau afiachusrwydd
Mae cysylltiad rhwng llygredd aer â thua 30,000 o farwolaethau yn y DU yn 2025. Mae rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn i’w priodoli i lygredd aer. Yn ogystal â'r marwolaethau, mae llygredd aer yn gwaethygu iechyd pobl. Yn ôl amcangyfrifon o farwolaethau yn sgil llygredd aer, roedd 3,010 o achosion newydd o ganser yr ysgyfaint mewn oedolion a 9,750 o achosion newydd o asthma mewn plant y gellir eu priodoli i lygredd aer. Yn ogystal â hyn, mae tystiolaeth gynyddol o effaith ehangach llygredd aer gan gynnwys risgiau o ddementia a chlefyd cardiofasgwlaidd. Fel erioed, mae'r baich yn disgyn yn anghymesur ar y rhai mwyaf agored i niwed.
Mae aer dan do yn bryder cynyddol, gyda phobl yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser dan do yn y DU. Mae awyru gwael, lleithder a llwydni, ac allyriadau o wresogi domestig, coginio gyda nwy a chynhyrchion cartref i gyd yn cyfrannu at amlygiad.
Mae'r adroddiad hefyd yn edrych ar rôl gweithwyr iechyd proffesiynol - mae gennym ni fel meddygon rôl i’w chwarae wrth siarad â chleifion am lygredd aer os yw’n effeithio ar eu hiechyd. Mae'r JRCPTB wedi gofyn i'r pwyllgorau ymgynghorol arbenigol ar gyfer meddygaeth fewnol a chyffredinol, meddygaeth fewnol acíwt a meddygaeth anadlol ystyried llygredd aer mewn rhyw ffurf yn yr adolygiad nesaf o’r cwricwlwm.
Ar nodyn cadarnhaol, gall newidiadau mewn llygredd aer amgylchynol wella iechyd yn gyflym, ac mae tystiolaeth wedi’i chyhoeddi sy’n dangos bod newidiadau yn ansawdd aer yn ystod cyfyngiadau symud Covid wedi arwain at leihad cyflym yn y risg o gael eich derbyn i ysbyty ag asthma.
Ein galwadau i Lywodraeth Cymru
Rydym yn gwneud ansawdd aer yn un o'n prif flaenoriaethau wrth nesau at etholiad y Senedd. Rydym am i'r llywodraeth nesaf yng Nghymru gydnabod bod llygredd aer yn fater iechyd cyhoeddus allweddol a chymryd camau cynyddol uchelgeisiol i leihau amlygiad yn y tymor byr a’r hirdymor i lygredd aer yn yr awyr agored a dan do.
Med 25 a datblygu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer atal
Roedd yn wych dal i fyny ag aelodau ym Med 25, ac roedd yr Athro Chris Whitty, oedd yn wych fel arfer, yn glir bod ein hymgyrchu – oedd yn cynnwys cyfraniad ein haelodau yng Nghymru - wedi bod yn effeithiol ac yn sbardun cryf i lywodraethau wella iechyd ein cenhedloedd. Yn ôl arolwg diweddar roedd 81% o'r cyhoedd yn amheus iawn ynghylch i ba raddau y mae tybaco, alcohol a bwydydd afiach yn rhoi sylw i iechyd y cyhoedd ar draul elw.
Ond mae newid ymddygiad yn anodd, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn gweld sylfaen dystiolaeth sy'n datblygu ac sy’n dangos y gall ymyriadau cymunedol gynyddu ymarfer corff. Mae'r NEJM wedi cyhoeddi astudiaeth flaenllaw sy’n darparu tystiolaeth i ddangos bod rhaglen ymarfer corff strwythuredig 3 blynedd yn ymestyn y siawns o oroesi ar ôl llawdriniaeth canser y colon a’r rhefr a chemotherapi cynorthwyol yn sylweddol – mae hyn yn arbennig o werthfawr gan ein bod wedi recriwtio cleifion lleol o BIPAB. Yn ogystal â hyn, mae gan y tîm o 'Born in Bradford' sy'n siarad yn nigwyddiad RCP Caerdydd 2025 dystiolaeth fod ymyrraeth strwythuredig yn helpu i sicrhau bod plant oedran ysgol yn egnïol dros gyfnod estynedig o amser. Cyhoeddiad i ddilyn.
Yn olaf, mae RCP Digest yn e-bost bob pythefnos sy'n cynnwys newyddion diweddaraf RCP, gwybodaeth am ymgyrchu a gwaith polisi. Rydym wedi lansio hwn ar LinkedIn yn ddiweddar fel ei fod yn cael ei anfon yn syth i'ch ffôn trwy'r ap LinkedIn gyda rhybudd cyn gynted ag y bydd rhifyn newydd ar gael. I danysgrifio, ewch i'r ddolen ganlynol a phwyswch tanysgrifio.