Fis diwethaf, fe wnaeth Rhaglen Archwilio Cwympiadau a Thoriadau Esgyrn Brau (FFFAP) Coleg Brenhinol y Meddygon gyhoeddi adroddiad 2019 y comisiynydd ar wasanaethau cyswllt torri esgyrn (FLS-DB) ledled Cymru a Lloegr. Mae Gareth Llewelyn, ein his-lywydd ar gyfer Cymru, yn bwrw golwg ar y canfyddiadau ac yn edrych ymlaen at roi’r argymhellion ar waith yng Nghymru.
'Mae methu darparu mynediad at wasanaethau atal toriadau eilaidd i bawb yn arwain at oblygiadau ariannol sylweddol, a dim ond gwaethygu wnaiff hyn wrth i’n poblogaeth heneiddio.'
Mae osteoporosis yn effeithio ar fwy na thair miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. Mae’n gyflwr sy'n gwanhau'r esgyrn, gan achosi iddynt fod yn frau ac yn fwy tebygol o dorri – yn enwedig yr asgwrn cefn ac esgyrn yr arddyrnau a’r cluniau. Maent yn cael eu galw'n ‘doriadau esgyrn brau’ os ydynt yn cael eu hachosi gan gwymp o uchder sefyll neu is. Mae pobl sydd wedi torri asgwrn brau mewn mwy o berygl o dorri asgwrn arall ac mae llawer ohonynt yn torri nifer o esgyrn cyn cael diagnosis o osteoporosis. Yn ôl y Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol (y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol gynt), bydd un o bob pum merch sydd wedi torri asgwrn yn cael tri neu ragor o doriadau cyn cael diagnosis.
Mae hwn yn fwy na dim ond ystadegyn mewn papur academaidd, mae’r niferoedd hyn yn cynrychioli unigolion. Ar gyfer llawer o bobl, bydd yr anafiadau hyn wedi bod yn rhai trawmatig gydag effeithiau pellgyrhaeddol.
Y llynedd, cafwyd mwy na 300,000 o doriadau esgyrn brau ymysg cleifion dros 50 oed ledled Cymru a Lloegr. Fel yr eglura Iona Price, cadeirydd panel cleifion FFFAP, ‘mae hwn yn fwy na dim ond ystadegyn mewn papur academaidd, mae’r niferoedd hyn yn cynrychioli unigolion. Ar gyfer llawer o bobl, bydd yr anafiadau hyn wedi bod yn rhai trawmatig gydag effeithiau pellgyrhaeddol.’ Bydd rhaid i lawer o gleifion ddechrau defnyddio cymorth cerdded a bydd rhai ohonynt yn gorfod symud i leoliad cartref gofal ar ôl torri asgwrn.
Yn wir, mae Cronfa Ddata Genedlaethol ar Dorri Clun yn dweud bod achosion o dorri asgwrn y glun yn unig yn atebol am 4,000 o dderbyniadau i ysbytai yng Nghymru a mwy na 120,000 o ddyddiau gwely mewn ysbytai yng Nghymru. Maent yn costio o leiaf £100 miliwn y flwyddyn i’r GIG, heb gynnwys yr effaith ar wasanaethau gofal cymdeithasol.
Fodd bynnag, y newyddion da yw y gellid osgoi miloedd o doriadau pe bai cleifion yn cael asesiad cyflym a thriniaeth amserol ar ôl torri asgwrn. Dyna pam mae Coleg Brenhinol y Meddygon wedi bod yn gweithio i berswadio byrddau iechyd a chyrff y GIG ledled Cymru bod angen rhagor o wasanaethau cyswllt torri esgyrn (FLS) arnom yn ein hysbytai a’n cymunedau.
Mae’r timau amlddisgyblaethol hyn yn cynnwys nyrsys, meddygon, therapyddion a staff gweinyddol sy'n gallu canfod a thrin pobl 50 oed a hŷn sydd wedi torri asgwrn brau. Y nod yw lleihau’r risg o doriadau dilynol; mae’n hollbwysig bod FLS hefyd yn gallu cyfeirio pobl at wasanaethau eraill i wella iechyd eu hesgyrn a lleihau eu risg o gwympo. I wneud hyn, bydd angen i weithwyr arbenigol mewn ysbytai, meddygfeydd a gwasanaethau cymunedol weithio ar y cyd – rhywbeth y dylem fod mewn sefyllfa ragorol i allu ei wneud, o ystyried ein system iechyd integredig yma yng Nghymru.
Argymhellion
- Dylai FLS sicrhau eu bod yn adnabod mwy na 50% o'r llwyth gwaith disgwyliedig.
- Dylai FLS gyda >10% o'r holl gleifion a gyflwynwyd sydd wedi torri asgwrn y cefn weithio gyda'i gilydd i ddiffinio'r llwybrau ymarfer gorau ar gyfer adnabod toriadau i asgwrn y cefn.
- Dylai FLS sicrhau bod eu gwasanaethau'n bodloni canllawiau National Institute of Health and Care Excellence (NICE) and National Osteoporosis Guideline Group (NOGG) ar gyfer triniaeth.
- Dylai FLS nad ydynt yn argymell nac yn atgyfeirio eu cleifion fel mater o drefn am asesiad cwympiadau dreialu llwybr cwympiadau y cytunwyd arno yn eu FLS.
- Dylai FLS sydd wedi adnabod >50% o’r llwyth gwaith toriadau disgwyliedig gael eu cynghori i flaenoriaethu gwella gwaith monitro dros wella'r broses adnabod.
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried yr argymhellion hyn o ddifrif nawr. Mae Dr Antony Johansen, arweinydd clinigol Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Dorri Clun ac ortho-geriatregydd ymgynghorol yn yr uned trawma yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yn dweud bod rhai ysbytai yng Nghymru, gan gynnwys Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, yn dangos arferion da ond bod llawer o rai eraill ar ei hôl hi.
Yn ddelfrydol, dylai pob bwrdd iechyd gymharu ei berfformiad â nifer o ddangosyddion perfformiad allweddol bob mis a dylai Llywodraeth Cymru ofyn iddynt pam nad ydynt yn perfformio os nad ydynt yn cwrdd â 75% o’u dangosyddion perfformiad allweddol yn rheolaidd. Does dim o’r gwaith hwn yn amhosibl ei gyflawni oherwydd mae’r gwaith i gyd yn cael ei wneud rhywle yng Nghymru.
‘Yn ddelfrydol, dylai pob bwrdd iechyd gymharu ei berfformiad â nifer o ddangosyddion perfformiad allweddol bob mis a dylai Llywodraeth Cymru ofyn iddynt pam nad ydynt yn perfformio os nad ydynt yn cwrdd â 75% o’u dangosyddion perfformiad allweddol yn rheolaidd. Does dim o’r gwaith hwn yn amhosibl ei gyflawni oherwydd mae’r gwaith i gyd yn cael ei wneud rhywle yng Nghymru,’ eglura Dr Johansen.
Felly, beth mae canfyddiadau adroddiad blynyddol FLS-DB 2018 yn ei ddweud wrthym? Rydym yn gwybod bod y gwaith o adnabod toriadau yn gwella, ac mae mwy o gleifion nag erioed yn cael eu hatgyfeirio i gael asesiad cwympiadau. Fodd bynnag, yn fras, mae gostyngiad cyffredinol yn y gwaith monitro ar ôl torri asgwrn. Mae Claire Severgnini, prif weithredwr y Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol, yn dweud ei bod hi’n ‘hyderus y bydd y ffocws eleni ar nifer o ddangosyddion perfformiad allweddol yn parhau i sbarduno cynnydd mewn safonau gofal, a hynny mewn ffordd sy'n targedu. Mae rhagor o waith i'w wneud o hyd ond mae'n dangos [yr adroddiad hwn] i ni lle mae angen gwelliannau a sut mae eu cyflawni.’
‘Dylai toriadau esgyrn brau gael eu hystyried yn rhybuddion cynnar ym maes gofal iechyd,’ meddai Dr Johansen. ‘Er enghraifft, mae claf sydd wedi torri ei glun yn aml yn symud rhwng gwahanol adrannau mewn ysbyty, gydag ychydig neu ddim cydweithrediad na chydweithio rhwng timau ac, yn waeth fyth, heb unrhyw ddull o fesur cydweithrediad. Mewn byd delfrydol,’ meddai, ‘rhaid i ni ddefnyddio gwasanaethau archwilio annibynnol fel FLS-DB a'r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Dorri Clun i wella gofal.’
Bydd tîm Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru yn dal ati i gydweithio â’n cyd-weithwyr yn nhîm y FFFAP yn Llundain i ddylanwadu ar newid a gwella gofal i gleifion y mae angen gwasanaethau cyswllt torri esgyrn arnynt.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chronfa Ddata'r Gwasanaeth Torri Esgyrn drwy ffonio +44 (0)20 3075 1511, neu drwy e-bostio FLSDB@rcplondon.ac.uk.
Adnoddau i’w llwytho i lawr
- Adroddiad blynyddol 2018 ar Gronfa Ddata’r Gwasanaeth Cyswllt Torri Esgyrn
- Cyfeiriadau adroddiad blynyddol 2018 ar Gronfa Ddata’r Gwasanaeth Cyswllt Torri Esgyrn
- Adroddiad blynyddol 2019 CCG ar Gronfa Ddata’r Gwasanaeth Cyswllt Torri Esgyrn
- Cyfeiriadau adroddiad 2019 CCG ar Gronfa Ddata’r Gwasanaeth Cyswllt Torri Esgyrn
- Esgyrn Cryf i Bobl dros 50 Oed – llyfryn i gleifion