Blog

18/11/20

18 November 2020

Pedwar tymor o COVID – myfyrdodau ynglŷn â’m blwyddyn gyntaf fel Is-lywydd Cymru

Pan ddechreuais y swyddogaeth hon ym mis Ionawr 2020, roeddwn i’n meddwl y byddai heriau o’m blaen, ond ni wneuthum erioed ddychmygu y byddai ein bywydau proffesiynol a phersonol yn cael eu hamharu yn llwyr.  Nac ychwaith y byddem ni’n derbyn llythyr mor gefnogol gan ein PSM, Dr Frank Atherton.

Meddygon – rydych chi’n glod i’ch proffesiwn.

Yn dilyn gaeaf anodd, roeddem i gyd yn edrych ymlaen at y gwanwyn, cyfle i ymgysylltu â’n cydweithwyr mewn cynadleddau a magu nerth newydd.  Roedd fy rhagflaenydd, Dr Gareth Llewelyn wedi gosod safon uchel iawn, roedd y Coleg yng Nghymru yn ffynnu, ac roeddem yn cynllunio ein hail seremoni aelodaeth/cymrodoriaeth.  Fodd bynnag, nid oedd hyn i fod.  Ymatebodd meddygon a’u timau i’r ‘alwad i fynd i’r gad’, ac aildrefnwyd, addaswyd a chyflawnwyd eu gwasanaethau yn ystod y don gyntaf, rhai gyda cholled bersonol fawr.  Ni symudodd y meddygon sydd dan hyfforddiant ac maen nhw wedi myfyrio ar effaith y gallai hyn fod wedi’i gael o bosibl ar eu gyrfaoedd mewn erthygl a gyhoeddwyd yn y Future Healthcare Journal.

Tynnwyd sylw yn ystod yr haf at ganlyniadau anfwriadol y newidiadau mewn gwasanaethau gyda chleifion a oedd yn dod gerbron gyda chymhlethdodau, a daethom yn ymwybodol o oedi gydag ymyriadau a mwy o amseroedd disgwyl am ofal.  Fodd bynnag, cafodd gwasanaethau eu haildrefnu, a sefydlwyd ffordd newydd o weithio, daeth ymgynghoriadau dros y ffôn y peth arferol, a rhoddwyd blaenoriaeth i hyfforddiant ac addysg.

Yn yr hydref, daeth ail gyfnod o gyfyngiadau symud, gyda llawer ohonom wedi blino, gydag ychydig o seibiant o’r pandemig – fodd bynnag, gyda’r gobaith am frechlyn a’r potensial i feddygon gael eu profi ddwywaith yr wythnos am COVID-19, mae goleuni ym mhen draw’r twnnel hir iawn.

Yn ogystal, rydym wedi wynebu pwysau a thyndra’r ail don o COVID-19 sydd yn awr yn ymddangos.  Cysylltodd rhai o’n cydweithwyr yn ne Cymru â mi yn gynharach y mis diwethaf ynglŷn â’u pryderon am gapasiti a llif cleifion yn eu hysbyty, wedi’i amharu gan yr anallu i ryddhau cleifion sydd wedi cael eu profi’n negyddol am COVID-19 yn ôl i’r gymuned heb gyfnod hir o ynysu.  Roedden nhw wedi ysgrifennu at eu tîm bwrdd iechyd, ond roeddwn i hefyd yn gallu trafod y materion hyn gyda Llywodraeth Cymru a’r BBC a chyhoeddasom ddatganiad cefnogol ar ein gwefan.

Wrth inni symud i dymor y gaeaf, rydw i’n gofyn i chi gymryd eich gwyliau blynyddol, cael mynediad at adnoddau llesiant a chael pleser o’r pethau bychan hynny yr ydym yn aml yn eu cymryd yn ganiataol.  Gan obeithio y gallwn ni ddathlu’r Nadolig gyda’n teuluoedd.

Yn bersonol, bu’r flwyddyn ddiwethaf yn gyfnod bywiog – ymddeolais a dychwelais ym mis Tachwedd 2019 yn dilyn taith wych i Siapan i wylio Cwpan Rygbi’r Byd, heb ragweld y byddai gwyliau pellter hir oddi ar yr agenda, y byddai gweithio gartref yn arferol i mi ac y byddwn yn treulio fy amser yn y clinig iechyd rhywiol mewn sgrybs a PPE.  Tra aeth ein gwasanaeth yn ddistaw yn ystod wythnosau cyntaf y cyfyngiadau symud cychwynnol, ni wnaeth hynny barhau am amser hir!!!  Yn ddiddorol, nid yw pobl yn cysylltu gweithgaredd rhywiol gyda phartneriaid newydd fel risg o gael COVID-19. 

Daeth cynadledda fideo ar gyfer gweithgareddau RCP y peth arferol ac mae wedi galluogi rhywfaint o rwydweithio na fyddai efallai wedi digwydd cyn COVID-19.  Yn wir, rydw i’n colli cysylltu a chymdeithasu wyneb yn wyneb.  Mawr yw fy nyled i Jacqui a Lowri am eu cyfraniadau rhyfeddol i gadw RCP Cymru i fynd.  Maen nhw wedi mynd i drafferth mawr i wneud i bethau ddigwydd.  Diolch o galon.

Gobeithiaf eich bod chi wedi gwerthfawrogi’r cyfleoedd addysgol yr ydym wedi gallu eu cynnig yn rhithwir drwy’r RCP Player.  Roeddwn wrth fy modd yn cadeirio’r diweddariad anadlol ym mis Tachwedd, a oedd yn dangos tri o’n prif feddygon anadlol yng Nghymru.  Mae’n parhau i fod ar gael i’w wylio, ac anogaf chi i wylio darlith Turner-Warwick Cymru ar 20fed Tachwedd pan fydd Dr Alexandra Phillips yn cyflwyno ‘Defnyddio efelychiadau o alwadau meddygol er mwyn gwella paratoi ar gyfer hyfforddiant sylfaenol’.

Roeddwn â diddordeb gweld cyfrifiad ymgynghorwyr 2019 yr RCP a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod gan Ogledd Cymru un o’r gymhareb uchaf o feddygon y pen o’r boblogaeth.  Fodd bynnag, mae pryder yn parhau drwy’r wlad ynglŷn â swyddi ymgynghorwyr gwag, niferoedd uchel o feddygon locwm, ac yn ofidus materion ynghylch bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu a brofwyd yn arbennig gan ymgynghorwyr benywaidd.  Lansiwyd Cynghrair Anghydraddoldebau Iechyd yn hwyr ym mis Hydref – ac yn ystod 2021, rydw i’n gobeithio y byddwn yn gallu dylanwadu ar y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei gynllunio a’i gyflawni, gwella iechyd a gofal, ac arwain ataliad salwch ar draws cymunedau yng Nghymru, yn unol ag amcanion strategol yr RCP.

Yn olaf, rydym wedi dechrau edrych ymlaen at etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.  Eisoes, rydym wedi cwrdd ag amrywiaeth o randdeiliaid, yn cynnwys Comisiwn Bevan, Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) Cymru, Cynghrair Canser Cymru, Sefydliad Prydeinig y Galon, Ymchwil Canser y DU a Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI).  Cyhoeddwyd memoradndwm cyd-ddealltwriaeth gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru'r mis diwethaf.

Rydym yn parhau i gwrdd â Phrif Swyddog Meddygol Cymru, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol a swyddogion Academi Cymru bob bythefnos er mwyn trafod blaenoriaethau COVID-19 sy’n dod i’r amlwg, ac rydym yn casglu astudiaethau achos gan hyfforddeion a meddygon COTE ynglŷn â gwedd newidiol meddygaeth gymunedol fel rhan o’n hymgystylltiad ar ofal heb ei drefnu a gofal brys gyda Llywodraeth Cymru.  Bydd y rhain yn cyfrannu hefyd at gyfres ddiweddaredig o ofynion maniffesto’r RCP a fydd yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2021.

Rydw i’n teimlo’n ddiymhongar iawn gyda’ch ymroddiad a’ch ymrwymiad.