Cyn etholiad y Senedd yn 2021, mae Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) Cymru wedi lansio ei faniffesto o alwadau ar gyfer llywodraeth nesaf Cymru.
Wrth i’r ansicrwydd gwleidyddol ynghylch Brexit barhau, mae RCP wedi galw ar lywodraeth y DU yn San Steffan i roi diogelwch cleifion wrth galon y trafodaethau gyda’r UE. Gallai gadael heb gytundeb gael effeithiau negyddol sylweddol ar y systemau iechyd a gofal ym mhob un o wledydd y DU.
Gyda llai na 2 flynedd i fynd tan etholiad nesaf y Senedd, mae RCP yn galw ar bob plaid wleidyddol i fabwysiadu agwedd uchelgeisiol tuag at warchod a gwella iechyd pobl Cymru yn eu maniffestos. Gan edrych tua 2021, mae RCP yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i wneud y canlynol:
- galluogi cleifion a chlinigwyr i arwain newid i sefydliad a gweithlu’r GIG
- cynyddu nifer y myfyrwyr meddygol a’r meddygon ôl-radd yng Nghymru
- cyflawni eu hymroddiad i flaenoriaethu iechyd a lles gweithlu’r GIG
- gwarchod ymchwil feddygol rheng flaen os bydd y DU yn gadael yr UE
- cyflwyno Deddf Aer Glân, buddsoddi mewn gwasanaethau arbenigol ym maes gordewdra a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd.
Er bod 77% o feddygon uwch dan hyfforddiant yng Nghymru’n dweud bod ansawdd yr hyfforddiant ym maes eu harbenigedd yn rhagorol neu dda, mae gormod yn dweud wrthym ni bod bylchau yn y rota a swyddi gweigion yn effeithio ar eu gallu i gyflawni gwaith ymchwil, mynychu sesiynau addysgu ffurfiol, neu fwynhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.
Mae gwella lles staff yn hanfodol. Rhaid i lywodraeth nesaf Cymru weithio gyda GIG Cymru i ddiogelu amser i glinigwyr wneud ymchwil, llunio gwelliannau i ofal cleifion a darparu addysgu ac addysg i eraill. Yn wir, dywed 80% o feddygon dan hyfforddiant arbenigol yng Nghrymu y byddai amser wedi’i neilltuo ar gyfer datblygiad proffesiynol yn gwella’u profiad o hyfforddi.
Dywedodd Dr Gareth Llewelyn, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru:
‘Mae’n anrhydedd gweithio yn GIG Cymru ac ar ran ein cleifion. Mae RCP wedi gwrando ar ein haelodau, sy’n gweithio ddydd ar ôl dydd yn ein GIG, a gyda’r adroddiad hwn, rydyn ni’n amlygu atebion a allai ein helpu ni i gyflawni gofal cleifion hyd yn oed yn well. Ond rhaid i’r newidiadau hyn cael eu llunio gyda'r bobl sy’n defnyddio’r GIG, a than arweiniad y meddygon sy’n gweithio gyda nhw.'