Blog

24/09/25

24 September 2025

Senedd 2026 - Y ffordd i wella: lansio maniffesto Coleg Brenhinol y Meddygon

Welsh Senedd

Mae mis Medi bob amser yn dod ag ymdeimlad o adnewyddu ac ailffocysu, felly roedd yn fis gwych i lansio ein maniffesto ar gyfer Senedd 2026 ar yr un diwrnod ag ymweliad Coleg Brenhinol y Meddygon ag Ysbyty Maelor Wrecsam.

Ein galwadau ar gyfer Senedd 2026

Mae ein maniffesto yn nodi galwadau clir ar gyfer y llywodraeth nesaf yng Nghymru: cynllun gweithlu hirdymor dan arweiniad clinigol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, rhagor o weithredu ar atal a'r pethau sy'n ein gwneud yn sâl yn y lle cyntaf, ac atebion gofal cymdeithasol cadarn. Mae cyhoeddi'r maniffesto hwn yn benllanw misoedd o drafodaethau gyda meddygon o bob cwr o Gymru, a hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a gymerodd ran yn ein trafodaethau ac a gyfrannodd syniadau.

Dyma ragor o fanylion am y tair blaenoriaeth a amlinellir yn ein maniffesto.

Mynd i'r afael ag argyfyngau gweithlu'r GIG

Roeddem yn awyddus i ddatblygu atebion, ac efallai nad yw'n syndod mai ein blaenoriaeth gyntaf ar gyfer llywodraeth nesaf Cymru yw datblygu cynllun gweithlu'r GIG hirdymor dan arweiniad clinigol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Mae angen i gynllunio'r gweithlu ddod at ei gilydd, oherwydd heb hyn, bydd yn parhau i gael ei ddatblygu mewn ffordd dameidiog. Rydym am i'r cynllun hwn nodi dull newydd o recriwtio a chadw staff ac ystyried effaith patrymau gweithio sy’n newid, mynd i'r afael â materion recriwtio gwledig a mynd i'r afael â materion ehangach yn ymwneud â seilwaith, technoleg ac amgylcheddau gwaith. Mae hefyd yn hanfodol ei fod yn canolbwyntio ar yr heriau sy'n wynebu ein meddygon ar ddechrau eu gyrfa, fel cymarebau cystadleuaeth cynyddol a swyddi hyfforddi annigonol.

Rhoi atal yn gyntaf a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd

Rydym hefyd yn gwybod, os ydym am fynd i'r afael â'r galw am wasanaethau'r GIG yng Nghymru, fod angen inni fynd i'r afael â'r tlodi cynyddol a'r dirywiad mewn safonau byw yng Nghymru, sy'n cynyddu salwch ac afiechyd. Mae'n rhyfeddol bod bron i chwarter yr aelwydydd a 31% o blant yn byw mewn tlodi. Rhaid i adrannau'r Llywodraeth weithredu gyda'i gilydd i liniaru tlodi ac afiechyd. Ein hail flaenoriaeth ar gyfer y llywodraeth nesaf yng Nghymru yw cynllun gweithredu trawslywodraethol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Bydd hyn yn gofyn am weithredu gan y meysydd tai, blynyddoedd cynnar, addysg, trafnidiaeth, y gymuned a'r amgylchedd - mae angen i bawb fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Rydym hefyd wedi galw am weithredu i wella ansawdd aer, lleihau gordewdra a mynd i'r afael â niwed ysmygu ac alcohol.

Buddsoddi mewn gofal cymdeithasol

Fe wnaeth adroddiad diweddar y GMC ar brofiadau yn y gweithle ganfod fod 69% o feddygon yng Nghymru wedi nodi llif cleifion neu bwysau o ran gwelyau fel rhwystr i ofal da i gleifion - mae hyn yn cymharu â chyfartaledd o 56% yn y DU, sy’n dangos, er bod hyn yn broblem ledled y DU ei fod yn sylweddol waeth yng Nghymru. Mae'r pwysau hyn yn aml yn deillio o oedi wrth drosglwyddo cleifion i'w cartrefi o'r ysbyty ac mae’n cyfrannu at ofal coridor.

Yn 2024, 5 wythnos oedd yr oedi cyfartalog i gleifion yng Nghymru adael yr ysbyty ar ôl bod yn ddigon iach i adael. Mae’r oedi yn bennaf oherwydd bod cleifion yn aros am asesiadau, lleoliad mewn cartref gofal neu ofal addas yn y cartref. Dyna pam mai ein trydedd flaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yw gwerthfawrogi a buddsoddi mewn gofal cymdeithasol - gwella llif cleifion drwy'r ysbyty a chyflymu'r broses ryddhau.

Cymru'n mabwysiadu terminoleg newydd ar gyfer cynorthwywyr meddygon

Yn dilyn ein llythyr at Brif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver, cawsom ein calonogi gan y cyhoeddiad gan ysgrifennydd y cabinet dros iechyd Jeremy Miles fod Cymru wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhellion a nodir yn adolygiad Leng, ac mae grŵp gweithredu'n cael ei sefydlu yng Nghymru. Mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi ysgrifennu at gyflogwyr yng Nghymru i annog mabwysiadu'r derminoleg ddiweddaraf yn gynnar - 'cynorthwywyr meddygon' a 'chynorthwywyr meddygon mewn anaesthesia'. Rydym yn llwyr gefnogi'r newid enw i fynd i'r afael â phryderon a godwyd gan gleifion a theuluoedd nad ydynt yn glir ynghylch pwy maent yn ei weld. Rydym yn gobeithio'n fawr y gall y ddau broffesiwn symud ymlaen gyda'i gilydd nawr, wedi ymrwymo i waith tîm diogel a gofal sy'n canolbwyntio ar y claf. Mae systemau gofal iechyd yn gymhleth iawn, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn dysgu ei bod yn well cyflawni newid gam wrth gam gan werthuso'n ofalus, gan mai anaml y mae llwybrau byr yn cyflawni.

Cynllun Cefnogi Siaradwyr Cymraeg Prifysgol Abertawe

Os cawsoch eich ysbrydoli gan flog Dr Olwen Williams y mis diwethaf am siarad Cymraeg wrth ddarparu gofal iechyd, edrychwch ar Gynllun Cefnogi Siaradwyr Dysgwyr Cymraeg Prifysgol Abertawe i Weithwyr Iechyd Proffesiynol. Os ydych chi'n siarad Cymraeg yn rhugl neu'n dysgu Cymraeg ac eisiau cael eich rhoi mewn pâr cymorth gan gymheiriaid, cofrestrwch eich diddordeb. Mae croeso i chi gysylltu â r.o.morgan@swansea.ac.uk os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Dr Hilary Williams

RCP vice president for Wales

Hilary Williams 1 (1)