News

24/02/21

24 February 2021

Is-lywydd Coleg Brenhinol y Medddygon i Gymru: Mae diwrnodau cynhesach a hirach ar y gorwel

Mae llawer o unigolion a sefydliadau yn gweld amhariad y pandemig fel cyfle i gyflymu’r newid Er nad wyf yn credu y bydd unrhyw un ohonom yn meddwl y byddwn yn mynd yn ôl at ddarparu gwasanaethau fel y gwnaethom cyn y pandemig, mae angen inni gael gweledigaeth o sut y dylai hyn edrych.

Fel meddygon, mae gennym ni rôl bwysig i’w chwarae yn y broses hon. Dweud eich dweud!

Ym mwletin y mis hwn, rwyf yn eich gwahodd i gymryd mwy o ran yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon. Byddwch yn diwtor coleg, rhowch wybod i ni am eich profiad o’r pandemig, ymunwch â’n cyfarfod peilot #CyswlltRCP #RCPConnect, ac anogwch eich hyfforddeion i ymuno â chynllun darlithwyr Turner-Warwick. Wrth i ni ddod allan o’r ail don hon, bydd cymaint o gyfleoedd i deimlo’n hapusach am y dyfodol – gadewch i ni groesawu’r cyfleoedd hynny! 

Dweud eich dweud a pharatoi'r ffordd

Efallai eich bod wedi ymgysylltu â’ch cymdeithas arbenigolynghylch darparu gwasanaethau. Efallai eich bod wedi edrych ar egwyddorion Coleg Brenhinol y Meddygon o ranAiladeiladu’r GIG – ailosod gwasanaethau cleifion allanol ar gyfer yr 21ain ganrif yng nghyd-destun COVID-19. Mae cymaint o waith yn digwydd yn y maes hwn: mae Comisiwn Bevan wedi cynhyrchu cyfres o bapurau, sef Doing things differently, ac mae’r Hwb Gwyddorau Bywyd wedi bod yn cynnal seminarau ar agwedd genedlaethol tuag at werth mewn dysgu iechyd yng Nghymru. Yma yn nhîm Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru, rydyn ni wedi bod yn cyfweld cydweithwyr am eu profiad o’r pandemig, sy’n helpu i siapio’r hyn rydyn ni’n gofyn amdano yn ein maniffesto ar gyfer llywodraeth nesaf Cymru. Os hoffech siarad â ni, cysylltwch.

Beth sy’n digwydd ar lawr gwlad? 

Un o fy swyddogaethau fel is-lywydd Cymru yw cadeirio cyfarfod ar y cyd rheolaidd tiwtor coleg a thiwtor cyswllt coleg gyda’n pennaeth ysgol, Dr Shaun Smale. Mae ein  cyd-Aelod o Goleg Brenhinol y Meddygon, Dr Jo Szram yn ymuno â ni, ynghyd â phrif diwtor coleg Cymru, Dr Jo Morris.

Yn ystod 2020, fe wnaethon ni gwrdd bob 6-8 wythnos, ond erbyn hyn rydyn ni wedi mynd yn ôl i gwrdd bob 12 wythnos. Mae’n fforwm gwych ar gyfer rhannu syniadau, trafod materion hyfforddi a thrafod prosiectau ymchwil ac archwilio. Mae gennym swyddi tiwtoriaid coleg agored a choleg cyswllt mewn rhai byrddau iechyd – cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Roedd y cyfarfod y mis hwn yn arbennig o ddadlennol wrth i Dr Charlie Finlow, Dr Rosie Hattersley a Dr Melanie Nana gyflwyno data am brofiad hyfforddeion meddygaeth fewnol mewn clinigau cleifion allanol yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19 hyd yma. Roedden nhw’n gallu dangos bod diffyg mynediad yn cael effaith negyddol ar lesiant hyfforddeion. Byddan nhw’n ail-archwilio yn ystod hydref 2021 ac, yn y cyfamser, byddwn yn dosbarthu eu canfyddiadau a’u hargymhellion i randdeiliaid allweddol er mwyn gallu gwneud y gwelliannau angenrheidiol.

#CyswlltRCP #RCPConnect yn ne-orllewin Cymru

Oherwydd COVID-19, dydyn ni ddim wedi gallu cynnal ein sgyrsiau lleol arferol nac ymweliadau’r llywydd ag ysbytai, ac rydyn ni wedi gweld colli cwrdd â chydweithwyr ledled Cymru. Rydyn ni wedi penderfynu treialu cyfarfod ar-lein yn ne-orllewin Cymru ar 10 Mawrth am 12pm. Os ydych chi’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda neu ym Mae Abertawe, ymunwch â ni i drafod y flwyddyn ddiwethaf, a sut rydych chi wedi addasu’r ffordd rydych chi’n gweithio, yn addysgu, yn ymchwilio ac yn gofalu amdanoch chi eich hun. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen digwyddiadau.

Amser i fod yn decach

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon wedi ysgrifennu llythyr at y prif weinidog, yn gofyn i’w lywodraeth ddatblygu strategaeth anghydraddoldebau iechyd drawslywodraethol wrth i ni ailadeiladu cymdeithas ar ôl pandemig COVID-19. Mae 34 sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys colegau brenhinol, Cymdeithas Feddygol Prydain, Ymchwil Canser Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, wedi dod at ei gilydd i dynnu sylw at effaith gynyddol salwch cronig hirdymor ar ein cymdeithas.

‘Mae amser ar gyfer gwaith ymchwil yn werthfawr iawn’

Gan gyfuno gwaith ymchwil ag ymrwymiadau clinigol, dechreuodd Dr Justyna Witczak ymgymryd â swydd ymgynghorydd newydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn 2019. O fewn ychydig fisoedd, roedd pandemig COVID-19 wedi gohirio llawer o’i gwaith ymchwil. Darllenwch ei blog lle mae’n trafod ei gyrfa hyd yma, y rhwystrau i ymchwil mewn ysbytai llai, a phwysigrwydd amser a ddiogelir ar gyfer ymchwil glinigol.

‘Rydyn ni eisiau dechrau trafodaeth am lesiant’

Cyn dechrau pandemig COVID-19, gweithiodd Dr Sam Rice, meddyg ymgynghorol yn Llanelli, a Kimberley Littlemore, cyfarwyddwr creadigol eHealth Digital Media Ltd, gyda’i gilydd i ddatblygu cyfres o ffilmiau addysgol am ddiabetes. Dysgwch am eu set newydd o adnoddau sy’n cefnogi llesiant staff, a ddatblygwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Siarad ar eich rhan

Yn gynharach y mis hwn, rhoddais dystiolaeth i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd ar gyfer eu hymchwiliad i effaith COVID-19..  Soniais am fylchau yn rotâu’r gweithlu ac effaith ailddechrau gwasanaethau ar lesiant meddygon.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaethon ni hefyd ymateb i gynllun blynyddol drafft Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 2021-22. Ein prif argymhellion yw y dylai AaGIC weithio gyda GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i wneud y pethau canlynol:

  • cynyddu’r cyflenwad o feddygon ar draws pob rhan o’r gweithlu meddygol
  • gwarantu amser wedi’i neilltuo ar gyfer gwaith ymchwil, addysg, gwella ansawdd ac arweinyddiaeth
  • cyflawni’r ymrwymiad i roi blaenoriaeth genedlaethol i iechyd a llesiant staff.

Ar Ddiwrnod Amser i Siarad 2021, roedd Dr Helen Lane, meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn ne Cymru, wedi caniatáu i ni gyhoeddi cerdd newydd ar wefan Coleg Brenhinol y Meddygon, ‘It's good to talk’. Trodd at ysgrifennu barddoniaeth er mwyn ymlacio yn ystod y pandemig pan oedd derbyniadau i’r ysbyty yn bygwth llethu’r ysbyty lle mae’n gweithio. Darllenwch am ei phrofiadau yn ystod pandemig COVID-19.

Newid mawr i hyfforddeion

Mae cyflwyno’r cwricwlwm newydd ar gyfer meddygaeth fewnol yn golygu bod y cam hyfforddiant cynnar (craidd’ yn flaenorol, cam 1 erbyn hyn) ar gyfer meddygaeth yn newid o 2 i 3 blynedd o hyd. Mae’r newid hwn wedi creu ansicrwydd i hyfforddeion y mae angen iddyn nhw ddeall eu dewisiadau ar gyfer gwneud cais i raglenni yn 2021 a 2022, yn enwedig y rheini sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant meddygol craidd (CMT) neu goesyn gofal aciwt cyffredin – meddygaeth aciwt (ACCS-AM) ac sy’n dymuno dychwelyd i hyfforddiant uwch. 

Er enghraifft, bydd ar hyfforddeion nad ydyn nhw’n cael hyfforddiant ar hyn o bryd angen tystiolaeth o’r holl gymwyseddau hyfforddiant meddygaeth fewnol i symud ymlaen. Mae AaGIC yn cynghori byrddau iechyd i sicrhau bod cyd- swyddi clinigol nad ydyn nhw’n rhan o’r hyfforddiant yn diwallu anghenion yr hyfforddeion hyn er mwyn parhau’n ddeniadol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar safle recriwtio ST3.

Anogwch eich hyfforddeion i arddangos eu gwaith

Mae cynllun darlithwyr Turner-Warwick Coleg Brenhinol y Meddygon yn rhoi cyfle i hyfforddeion yng Nghymru gyflwyno eu gwaith ar lwyfan cenedlaethol yng nghynhadledd flynyddol ar y cyd Coleg Brenhinol y Meddygon a Chymdeithas y Meddygon yng Nghymru. Gwybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais.

Diolch o galon gan gydweithwyr

Yn ystod cyfarfod diweddaraf Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru gyda’r prif swyddog meddygol, tynnodd y colegau brenhinol sylw at faterion yn ymwneud â bylchau mewn rotas, addysg feddygol, a pha mor flinedig rydyn ni i gyd. Roedd yn galonogol clywed Dr Jack Parry-Jones o’r Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys yn diolch i feddygon am ein cyfraniad aruthrol at roi gofal COVID-19. Rwy’n dweud hyn ym mhob bwletin, ond rwyf yn falch o weithio gyda grŵp mor ysbrydoledig o glinigwyr.

Ac i orffen ar nodyn gobeithiol, rwyf wedi cael fy mrechiad COVID-19 cyntaf a nawr yn aros am fy ail bigiad. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddyddiau hirach a chynhesach y gwanwyn pan fydda i’n gallu mynd yn ôl i’r ardd lysiau o dan awyr las.