Blog

22/05/24

22 May 2024

Dywedwch fwy, dywedwch fwy, dywedwch fwy wrthym ni

Dr Inder Singh

Y ddadl o blaid newid

Mae ein poblogaeth yn heneiddio. Rydyn ni’n gweld mwy o bobl hŷn sydd â sawl cydafiechedd yn cael eu derbyn i’r ysbyty. Fodd bynnag, nid yw mynd i’r ysbyty fyth heb ei beryglon. Mae effaith mynd i’r ysbyty yn cynnwys risg o gael thrombosis neu heintiau ysbyty, cwympiadau, deliriwm, diffyg hylif, mynd yn fwy dibynnol yn gorfforol, a cholli arferion cysgu da, urddas a phreifatrwydd.

Tybed a yw ein cleifion, ein gofalwyr neu hyd yn oed bawb yn ein timau amlddisgyblaethol yn ymwybodol o hyn? A ydyn ni’n egluro effaith mynd i’r ysbyty wrth gleifion neu’n trafod ym mhob cyfarfod o’r Tîm Amlddisgyblaethol, wrth fynd rownd y wardiau neu wrth gyd-drafod claf o amgylch y bwrdd?

Mae mwy a mwy o staff gofal iechyd yn hunan-gofnodi eu bod wedi ymlâdd. Mae meddygon iau yn cydbwyso hyfforddiant yn eu harbenigedd ag amryfal dasgau i ofalu am eu cleifion, ac mae hyn yn cael effaith aruthrol ar les. Drwy ganolbwyntio ar ymarfer cyfannol ac ar ofal cyffredinol, efallai y cawn fwy o foddhad o’n swyddi ac y gallwn ganolbwyntio llai ar ‘greu’r gwely gwag nesaf’.

Gwneud newid

Mae angen i ni wir ddeall ein cleifion a pheidio ag anghofio am bwysigrwydd hanes manwl, deall gwraidd eu pryderon, dal ati i wrando a gofyn tri chwestiwn syml: ‘dywedwch fwy, dywedwch fwy, dywedwch fwy wrthym ni’.

Mae ‘dywedwch fwy wrthym ni’ yn canolbwyntio ar ddeall trefn ddyddiol ein cleifion. Fe all derbyn claf i’r ysbyty amharu ar ei drefn ddyddiol, gan effeithio ar ei annibyniaeth a’i allu gwybyddol ar ôl ei drosglwyddo, gan gynyddu’r risg iddo gael deliriwm. Y claf yw canolbwynt y gofal, a chydnabyddir effaith mynd i’r ysbyty ar unigrwydd, ar deimlo’n ynysig ac ar arferion cysgu, gan greu profiadau annymunol yn yr ysbyty.

Mae’n ein cymell i gynnal asesiad cynhwysfawr o gyflyrau meddygol parhaus ac ystyried cynlluniau gofal parhaus, a hynny drwy gyfathrebu amserol er mwyn hwyluso’r broses o drosglwyddo’r gofal i’r gymuned.

Wrth wneud hyn, gallwn ganolbwyntio ar gleifion yn eu cyfanrwydd – gan ystyried yr effaith y mae aros yn yr ysbyty yn ei chael ar eu lles – ac osgoi’r angen i roi cleifion ar lwybrau gofal, eu cadw i mewn yn hir a rhannu eu gofal yn ‘dasgau’.

Mae angen i ni hefyd ganolbwyntio’n ddiwyro ar addysg a gweithio mewn partneriaeth ymysg y timau amlddisgyblaethol. Gadewch i ni ddechrau gydag iaith – gall defnyddio’r term rhyddhau wadu i’r Tîm Amlddisgyblaethol y cyfleoedd i weithio y tu allan i leoliadau ysbyty ac nid yw’n ystyried anghenion gofal hirdymor posibl y claf.

Drwy newid yr iaith a ddefnyddiwn, fel rhyddhau, trosglwyddo gofal a ‘chyfnodau’ yn yr ysbyty, a chanolbwyntio ar gynllunio gofal, gallwn helpu i integreiddio’n ehangach a chreu partneriaeth â thimau gofal sylfaenol a chymunedol.

Yn yr un modd, mae ystyried cyfnod claf yn yr ysbyty fel ‘diwrnod oddi cartref’ yn gallu helpu i gofnodi effaith ‘cyfnod’ o ofal eilaidd ar eu dewis o fwyd, eu cyfleusterau tŷ bach, eu rhyddid i grwydro ac ar eu gallu i fod yn nhw eu hunain. Gall helpu i roi inni bersbectif o’r unigolyn cyflawn gan ein hannog i archwilio’r effaith ar urddas, preifatrwydd, arferion cysgu, ac annibyniaeth unigolyn.

Gall hefyd helpu i newid diwylliannau, gan hyrwyddo modelau gofal amgen fel ‘No place like home’; ac osgoi’r canlyniadau negyddol posibl ar unigolion pan gânt eu derbyn i’r ysbyty, yn enwedig i’n cleifion hŷn.

Mae’n hanfodol sicrhau bod cleifion a gofalwyr yn ymwybodol o fanteision ac anfanteision bod yn yr ysbyty, a chanolbwyntio ar yr amodau gorau ar gyfer trosglwyddo gofal yw conglfaen triniaethau meddygol bob tro. Wrth gynllunio gofal, rhaid bob amser fod yn dosturiol, yn gynhwysfawr a chanolbwyntio ar yr unigolyn.

Sut ydyn ni’n gwireddu’r ffordd hon o feddwl?

Yn 2018, cynigiodd Llywodraeth Cymru gynllun hirdymor ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd yn cynnwys canolbwyntio ar ddarparu mwy o wasanaethau cydgysylltiedig a gofal yn nes at y cartref.

Mae derbyn i ofal eilaidd yn aml yn arwydd o ddatblygiad clefyd neu gyflwr ac fe ddylai ysgogi trafodaethau am gynlluniau gofal ar gyfer y dyfodol. O’r herwydd, gall defnyddio iaith fel ‘diwrnodau oddi cartref’ mewn gofal eilaidd helpu i adnabod natur yr angen tebygol er mwyn ystyried cynllun gofal ar gyfer y tymor hir. 

Gall her broffesiynol gadarn ein helpu i feddwl am ymweliadau tebygol â gofal eilaidd i’r dyfodol ac am ddarparu gofal y tu hwnt i’r ysbyty (gan gysylltu â gwasanaethau eraill, fel therapi galwedigaethol a hyd yn oed bresgripsiynu cymdeithasol), a helpu i osgoi gorfod derbyn yr unigolyn i’r ysbyty i’r dyfodol os yw hynny’n bosibl. 

Gadewch i ni ganolbwyntio ar yr amodau gorau ar gyfer trosglwyddo gofal, gan gadw mewn cof anghenion gofal ein cleifion i’r dyfodol, yn hytrach na dim ond canolbwyntio ar y llwybr ‘diogel i’w rhyddhau’ cyflym.