Home » News » Cynhyrchiant | arloesi | y tri posibilrwydd

Cynhyrchiant | arloesi | y tri posibilrwydd

Ym mlog y mis hwn, mae Dr Hilary Williams, is-lywydd RCP Cymru yn trafod arloesedd, diagnosis cynnar a phwysigrwydd herio ymddygiad gwael.

Yn ddiweddar, gofynnodd y BMJ, A oes gan y GIG broblem â chynhyrchiant?

Yng Nghymru, y realiti yw y byddwn i fel meddyg yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r data i wir ddeall fy ngweithgaredd fy hun, beth rwy’n ei gyflawni, a beth yw fy nghanlyniadau bob dydd.  Rwy’n tueddu i feddwl ein bod ni’n dal i gael ein hyfforddi a’n gwerthuso fel pe bai gennym berthynas un-i-un gyda’n cleifion, pan mai ni, fel meddygon y dyddiau hyn, sydd â’r cyfrifoldeb dros wneud y penderfyniadau mewn tîm amlddisgyblaethol o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol.

Wrth gwrs, rydyn ni’n gweld cleifion yn unigol, ond fwy a mwy, rydyn ni’n gorfod rhannu ein hamser rhwng gofalu am gleifion a chefnogi a chynghori aelodau eraill o’r tîm amlddisgyblaethol. Ac fel yna y dylai fod: mae fy hyfforddiant a’m profiad fel meddyg yn golygu bod gennyf i’r arbenigedd i wneud penderfyniadau cymhleth, cydbwyso risgiau a manteision unrhyw gam gweithredu, a deall fframweithiau llywodraethu cymhleth – ond dydw i ddim yn siŵr a yw fy nghynllun swydd (neu, yn wir, unrhyw asesiad arall o’r hyn rwy’n ei wneud yn ystod fy wythnos waith) yn adlewyrchu hyn o gwbl. 

Mae arloesi wrth galon popeth a wnawn ni 

Mae gwella ac arloesi yn agos iawn at fy nghalon, felly fe wnes i wir fwynhau darllen argymhellion Comisiwn Iechyd The Times. Gallwch ddarllen safbwynt Coleg Brenhinol y Meddygon ar yr adroddiad terfynol yma. I mi, y neges allweddol oedd bod rhai modelau gofal gwych i’w cael yn y DU, ond rydyn ni’n ei chael yn anodd lledaenu’r arferion gorau yn ehangach. Neu, os ydyn ni’n llwyddo i wneud hynny, i arweinwyr clinigol unigol penderfynol iawn y mae’r diolch am hynny’n aml. Rwy’n falch o ddweud bod cynrychiolydd Pwyllgor Hyfforddeion Coleg Brenhinol y Meddygon, Dr Alexandra Burgess, yn un o’r arweinwyr arloesol hynny a’i fod wedi ennill Gwobr Seren Newydd am Ansawdd Clinigol gan Gymdeithas Geriatreg Prydain. Mae hi wedi helpu i ddatblygu gwasanaeth ymateb cyflym newydd cyn-ysbyty i bobl fregus a system electronig i dynnu sylw at bobl fregus yn yr adran achosion brys ac mae bellach yn datblygu sgôr gofal argyfwng yr un diwrnod ar gyfer oedolion hŷn bregus yn Abertawe.

Pwysigrwydd diagnosis cynnar 

Yn gynharach yn y mis, cawsom wybod bod y Brenin Charles wedi cael diagnosis o ganser. Mae pawb yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon yn dymuno’r gorau iddo yn ei driniaeth ac rydyn ni’n meddwl am y Brenin a’i deulu. Rwy’n falch iawn ei fod wedi bod mor agored am ei salwch; mae mor bwysig codi ymwybyddiaeth ynghylch canfod canser yn gynnar. Fel oncolegydd, cefais wahoddiad i siarad â’r BBC am bwysigrwydd rhaglenni sgrinio. Rydyn ni’n gwybod bod y nifer sy’n defnyddio’r gwasanaethau sgrinio yn isel mewn rhai cymunedau yng Nghymru ac mae llawer o bobl yn dal i feddwl am ganser – yn enwedig canser yr ysgyfaint – fel cyflwr dychrynllyd nad oes modd ei drin. Ac eto, mae clinigwyr yng Nghymru yn arwain gwaith rhagorol – er enghraifft, drwy weithio gyda Rhwydwaith Canser Cymru a Tenovus, mae Dr Sinan Eccles wedi treialu archwiliadau iechyd canser yr ysgyfaint wedi’u targedu gyda sganiwr symudol yn ardal Gogledd Rhondda. 

Mae mor bwysig ein bod yn buddsoddi mewn cyflwyno gwasanaethau sgrinio wedi’u targedu mewn ardaloedd o amddifadedd a’r ardaloedd hynny lle ceir nifer fawr o achosion o ganser. Mae gwir angen i ni fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran canser/iechyd. Rydyn ni’n gwybod, oddi wrth astudiaethau yn Lloegr, bod pobl yn debygol o fynd i gael eu sgrinio pan fydd hynny’n digwydd mewn man cyfleus – er enghraifft, sganiwr symudol mewn maes parcio archfarchnad.

Wedi’r cyfan, allwn ni ddim dibynnu ar ddefnyddio sganwyr CT mewn ysbytai yn unig. Wrth drafod canolfannau diagnostig, mae papur adolygu cyflym gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi ‘er bod lleoli canolfan ddiagnostig mewn ysbyty yn debygol o gynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau diagnostig sefydledig a gweithredol, efallai na fydd ar gael i bawb ac fe allai waethygu’r anghydraddoldebau iechyd a welwn ar hyn o bryd.’

Codi llais yn ddiogel am ragfarn ar sail rhyw 

Rwy’n falch o ddweud bod gwaith yn parhau ar ein ffrwd waith casineb at fenywod mewn meddygaeth. Ymunais â digwyddiad gan y BMA ar roi diwedd ar ragfarn ar sail rhyw mewn meddygaeth yn gynharach yn y mis ac mae grŵp o uwch feddygon benywaidd yng Nghymru ar fin cyhoeddi papur safbwynt newydd yn galw am fecanwaith adrodd annibynnol cenedlaethol ar gyfer camymddwyn rhywiol yn GIG Cymru. Ceisiwch gofio’r 3 posibilrwydd: a ydy’r ymddygiad yn droseddol, yn annymunol ynteu’n ddiofal? Os yw’n droseddol neu’n annymunol, mae angen dweud wrth yr heddlu. Ond os yw’n ddiofal, mae angen dweud yn ddi-flewyn-ar-dafod nad yw’n dderbyniol! Gwell atal na gwella, ac weithiau yr oll sydd ei angen yw sgwrs fach dros baned. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae: mae Canllawiau ymarfer meddygol da diweddaraf y GMC yn dweud y dylai unrhyw feddyg weithredu, a bod yn rhaid i rai sydd mewn swyddi arwain weithredu, os gwelant achos o aflonyddu rhywiol.

Roeddwn i’n drist gweld bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd Gwasanaeth Tân De Cymru i’w gofal ar ôl canfod bod yno ddiwylliant o aflonyddu rhywiol a chasineb yn erbyn menywod. Ond rwy'n falch o’u gweld yn gweithredu’n gyflym, ac fel y dywedodd ein cyn is-lywydd dros Gymru, yr Athro Olwen Williams, wrthyf yn ddiweddar, 'nid yw hyn yn golygu bod Cymru yn rhywle i'w osgoi fel meddyg benyw - yn hytrach, mae gennyn ni’r dewrder i godi llais a gwneud i newid ddigwydd.'

Cadwch yn saff.

Dr Hilary Williams 
Is-lywydd RCP Cymru 
Oncolegydd meddygol ymgynghorol