Home » News » O obaith tawel i aeaf newydd o anniddigrwydd | edrych yn ôl ar flwyddyn brysur iawn

O obaith tawel i aeaf newydd o anniddigrwydd | edrych yn ôl ar flwyddyn brysur iawn

Mae myfyrio’n rhywbeth pwysig yn ein gallu i lunio cysyniadau, i wneud synnwyr ac i symud ymlaen, felly ar gyfer fy mlog olaf am 2022, rwyf wedi ailedrych ar fy myfyrdodau misol a phwysleisio pa mor gythryblus ac anodd ei darogan fu’r flwyddyn wrth i ‘normal newydd’ esblygu, gyda phob math o heriau newydd yn cael eu taflu atom o bob cyfeiriad.

Mi ddechreuais mewn cyflwr o 'obaith tawel', gan edrych ymlaen at ‘egin gwyrdd y gwanwyn’ ac wrth gwrs etholiad llywyddol RCP. Mae pethau wedi newid cymaint yn y cyfamser! Y rhyfel yn Wcráin, yr argyfwng costau byw a’r prinder diddiwedd yn y gweithlu. Drwy gydol yr haf ac ymlaen i’r hydref, roedd y geiriau balchder, dewrder a thosturi, ynghyd â ‘mae'n iawn i beidio bod yn iawn’ yn ymddangos yn fy mlogiau, ac mi oedd hynny’n adlewyrchu’r sgyrsiau roeddwn yn eu cael â’n haelodau a chymdeithion a oedd yn fy atgoffa’n barhaus o le pa mor anodd yw’r gweithle bellach, wrth inni barhau i addasu i ffyrdd newydd o weithio i geisio dygymod â’r ôl-groniad o gleifion allanol a’r heriau wrth y drws ffrynt. Rwyf yn cymeradwyo eich dycnwch.

Yn draddodiadol mae'r 'gaeaf o anniddigrwydd' yn cyfeirio at aeaf 1978–79 pan oedd streiciau niferus yn cael eu sbarduno gan ffactorau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Mae peth tebygrwydd â’n sefyllfa ni heddiw, ac ni allwn ond gobeithio y caiff pethau eu datrys yn fuan.

Rwyf yn optimist ar y cyfan - ‘yma o hyd’ - ac felly mi hoffwn rannu â chi rai o gyflawniadau RCP Cymru Wales yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sy’n adlewyrchu blaenoriaethau strategol RCP

  • addysgu meddygon a’u helpu i gyflawni eu potensial
  • gwella iechyd a gofal ac arwain y gwaith o atal salwch mewn cymunedau
  • dylanwadu ar y ffordd mae gofal iechyd yn cael ei ddylunio a’i ddarparu.

Addysgu meddygon

Wrth i fywyd ddychwelyd i normal newydd ar ôl anrhefn COVID-19, cafodd ein cyfarfodydd tiwtoriaid coleg (CT) a thiwtoriaid coleg cyswllt (ACT) eu cwtogi i dair gwaith y flwyddyn, gyda chyfarfod wyneb yn wyneb yn yr hydref yn adeilad Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Tŷ Dysgu. Roedd pawb yn gwerthfawrogi cael dod at ei gilydd i rannu profiadau ac i ddatblygu rhwydweithiau. Rydym hefyd wedi cychwyn cynnal cyfarfodydd CT/ACT rhithiol amser cinio amlach ar gyfer pob rhanbarth (gogledd Cymru, de Cymru, gorllewin de Cymru a chanol/dwyrain de Cymru), sy’n sicrhau ein bod yn gwybod beth sy’n digwydd yn achos unrhyw broblemau ynglŷn â hyfforddiant addysgol neu ddarpariaeth gwasanaeth a all godi. Mi hoffwn ddiolch i’n holl diwtoriaid am eu cyfraniadau gwerthfawr yn ystod y flwyddyn ac i bennaeth yr ysgol Dr Shaun Smale am ei arweiniad amhrisiadwy.

Ym mis Medi, cynhaliwyd ein cystadleuaeth bosteri RCP Cymru Wales flynyddol. Yn ogystal â’r beirniaid, Dr Hilary Williams a Dr Shaun Smale, mi ges i bleser mawr yn darllen rhai cynigion ardderchog. Yr enillydd oedd Dr Jenny Coventry (‘Prosiect gwella ansawdd aml-gylch i wella cyfran y ffurflenni DNAR sy’n cael eu trafod â ‘pherthnasau agosaf’ cleifion) a rhoddwyd canmoliaeth uchel i Dr Anna Hesseling (‘A yw’r pandemig COVID-19 wedi cael effaith ar niferoedd a difrifoldeb yr atgyfeiriadau anorecsia nerfosa ymhlith pobl ifanc?’).

Uchafbwynt fy mlwyddyn i oedd ein Diweddariad RCP mewn meddygaeth yng Nghaerdydd a lwyddodd i ddenu cynifer. Am resymau amlwg, hon fydd yr unig gynhadledd Gymreig wyneb yn wyneb yn ystod fy nhymor fel is-lywydd, felly mi gefais dipyn o hwyl a bûm yn gwisgo fy het bwced ’yma o hyd’ – yn anffodus nid oedd hynny’n help i Gymru yng Nghwpan y Byd ond mi roddodd wên ar wyneb pawb. Roedd yr adborth positif gan y cynadleddwyr yn galonogol iawn – mae’n amlwg bod pwyllgor y gynhadledd yn gwybod sut i lunio rhaglen werth chweil.

Cefnogi ein cymdeithion a’n haelodau

Rwyf yn falch o ddweud ein bod eleni wedi datblygu ac ehangu ein cyfres o ymweliadau ysbyty Cyswllt RCP Connect. Mae’r rhain yn rhoi cysylltiad uniongyrchol inni â chymdeithion, aelodau, hyfforddeion a chymdeithion meddygol, ac mae’n gyfle i feddygon gael mynegi eu pryderon mewn gofod diogel, i drafod unrhyw faterion lleol ac i dynnu sylw at gyflawniadau allweddol. Yn dilyn ein hymweliad â Bae Abertawe (SBU) tua diwedd 2021, cyhoeddwyd ein hadroddiad dilynol ym mis Mawrth a chafwyd cyfarfod â thîm arweinyddion SBU i drafod y cynlluniau i ad-drefnu’r gwasanaethau meddygaeth acíwt. Rydym wedi parhau â’r trafodaethau hynny drwy gwrdd yn rheolaidd â’n tiwtoriaid coleg ac aelodau sydd wedi’n diweddaru ar y cynnydd sy’n cael ei wneud.

Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd ein hadolygiadau dilynol ar ein hymweliadau ag Ysbyty Maelor Wrecsam  ac Ysbyty Athrofaol y Faenor (GUH) a chyfrannwyd erthygl at Commentary ar ganlyniadau’r rhain. Rwyf yn gobeithio y byddwch yn teimlo bod yr ymweliadau hyn yn rhai buddiol; ein nod yw helpu cymdeithion ac aelodau, yn enwedig ein meddygon dan hyfforddiant sy’n gwneud cymaint i gadw ein cleifion yn ddiogel, ac rwy’n gobeithio hefyd ein bod fel coleg wedi dangos ein bod yn cymryd eich pryderon o ddifrif.

Yn olaf, lansiwyd Casgliadau positif yn sgil y pandemig, ein hadroddiad ar arloesi yng ngogledd Cymru, yn dilyn ein hymweliad ag Ysbyty Glan Clwyd yn gynharach eleni. Hefyd, cynhaliwyd dau ddigwyddiad Cyswllt RCP Connect de orllewin Cymru llwyddiannus ar 7 Medi yn Ysbyty’r Tywysog Philip ac yn Ysbyty Glangwili a chyhoeddwyd ein hadroddiad dilynol, Meddwl y tu allan i'r bocs yn gynharach y mis yma. Mae astudiaethau achos o’r ddau adroddiad hefyd wedi’u cyhoeddi fel blogiau ar wefan RCP.

Trefnwyd digwyddiad cyntaf rhwydwaith SAS Cymru, a fu’n llwyddiant mawr, ddechrau’r flwyddyn a chyhoeddwyd Dewis gyrfaol cadarnhaol: cefnogi meddygon SAS yng Nghymru. Yn dilyn ein hail gyfarfod yn yr hydref, rydym yn bwriadu cyhoeddi brîff wedi’i ddiweddaru gydag argymhellion ar ôl y Nadolig. Bydd y cyfarfod nesaf o’r rhwydwaith yn cael ei gynnal yn yr hydref.

Ym mis Ebrill, roedd yn bleser croesawu Kate Straughton, cyn lywydd y Gyfadran Cymdeithion Meddygol (FPA) i Gymru yn ystod ei thaith o’r DU. Bu’n ymweld â GUH a chyfarfu â’r cyfarwyddwr meddygol gweithredol, Dr James Calvert, a chymdeithion meddygol lleol, a chyfarfu hefyd ag AaGIC i drafod polisïau cenedlaethol. Meddai Kate, ‘rydym wedi dysgu am y llwyddiannau a’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud mewn sawl bwrdd iechyd yng Nghymru, yn ogystal â phroblemau a phryderon rhanbarthol. Mae lefel yr ymgysylltu gan bawb wedi gwneud argraff arnaf ac rwyf yn edrych ymlaen at weld y FPA yn parhau i gefnogi’r cenhedloedd datganoledig.’

Gwella iechyd a gofal 

Rhoi terfyn ar y loteri cod post: y ddadl dros weithrediaeth annibynnol ar gyfer GIG Cymru gennym, yna trefnwyd llythyr ar y cyd gan 34 o sefydliadau at Judith Paget CBE, cyfarwyddwr cenedlaethol iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a phrif weithredwr GIG Cymru, yn gofyn am ddiweddariad. Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai’n sefydlu model hybrid, cawsom wahoddiad gan Bwyllgor Iechyd y Senedd i gyflwyno barn ar y cyd a oedd wedi’i llofnodi gan dros 30 o sefydliadau. Rydym wedi ymateb hefyd i ymgynghoriad newydd ar sefydlu gweithrediaeth GIG ar gyfer Cymru, cawsom gyfarfod â’r dirprwy brif swyddog meddygol a threfnwyd gweithdy cenedlaethol i ddod â lleisiau cleifion a meddygon ynghyd.

Yn ystod yr haf, gofynnodd Rhwydwaith Canser Cymru inni gydlynu ymarferiad ymgysylltu clinigol ar ddatblygu manyleb gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau oncoleg acíwt yng Nghymru. Buom yn trefnu cyfarfod bord gron a gweithdy a chynhaliwyd cyfweliadau un i un â meddygon, nyrsys a therapyddion sy’n gweithio mewn oncoleg, meddygaeth liniarol a haematoleg ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Cadwch olwg am lansiad ein hadroddiad a’r argymhellion yn y flwyddyn newydd!

Cafwyd trafodaeth ar Unman yn debyg i gartref, ein hadroddiad ar wasanaethau wardiau rhithiol ac ysbyty yn y cartref yn y Senedd lle dywedodd y gweinidog iechyd ei bod ‘wedi darllen yr adroddiad gyda diddordeb ac yn cytuno â llawer iawn o’r argymhellion.’ Ers hynny rydym wedi bod yn gweithio â byrddau partneriaeth rhanbarthol (RPB), ac yn ddiweddar croesawyd timau RPB a cholegau brenhinol eraill i weithdy gofal integredig.

Yn olaf, rydym wedi parhau i weithio â’r Gynghrair Iechyd Menywod ar y cynllun iechyd menywod a merched ac ar ddatganiad ansawdd i Gymru. Ysgrifennodd cadeirydd Pwyllgor Hyfforddeion RCP Dr Melanie Nana y bennod ar feddygaeth mamau, a lansiwyd yr adroddiad terfynol fis Mai.

Arwain atal afiechyd

Yn ystod y 3 blynedd diwethaf, rydym wedi manteisio ar bob cyfle i bwysleisio na ellir anwybyddu penderfynyddion cymdeithasol iechyd. Heb wneud cydymdrech fawr, bydd iechyd y genedl yn dal i ddirywio, ac felly rydym wedi arwain gwaith i bwyso am gynllun traws-lywodraethol ar dlodi ac anghydraddoldebau. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddwyd Cofiwch y bwlch gennym, papur ar y rhwystrau rhag gweithredu fframwaith deddfwriaethol Cymru ar anghydraddoldebau iechyd, a gymeradwywyd gan 50 o sefydliadau ac a gyhoeddwyd fis Gorffennaf mewn partneriaeth â Chynghrair Iechyd a Llesiant Cydffederasiwn GIG Cymru. Ychydig wythnosau’n ôl, lansiwyd papur briffio newydd gennym, Mae popeth yn effeithio ar iechyd yn ystod - Diweddariad RCP mewn meddygaeth Caerdydd, a oedd yn dangos y gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghymru i leihau anghydraddoldebau.

Dylanwadu ar newid

Drwy gydol 2022, rydym wedi bod yn tynnu sylw at sefyllfa argyfyngus y gweithlu yn y GIG ac yn dangos sut mae swyddi gwag, bylchau mewn rotas a salwch staff yn effeithio ar ofal diogel i gleifion. Rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniadau at yr arolwg a’r cyfrifiad blynyddol sydd yn ein galluogi i roi syniad o’r sefyllfa i’r rhai sy’n llunio polisïau. Rydym yn credu bod angen cynllun gweithlu iechyd a gofal trylwyr ar Gymru, ac ar ôl misoedd o alw am hyn, cawsom gyfarfod yn ddiweddar â’r gweinidog sydd wedi addo y caiff un ei gyhoeddi’n gynnar yn 2023.

Yn ystod yr haf, daeth grŵp o 27 o golegau brenhinol a chyrff proffesiynol (RCAP) sy’n gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ynghyd i gyhoeddi Bringing the clinical voice to the conversation. Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y grŵp lythyr agored at y Prif Weinidog yn galw am gynllun gweithlu.

Buom hefyd yn arwain gwaith Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru i helpu Llywodraeth Cymru i ddiweddaru canllaw arferion da ar gyfer penodi ymgynghorwyr y GIG. Mae’r canllaw newydd wedi'i gyhoeddi a dylai byrddau iechyd fod yn ei ddilyn; cofiwch roi gwybod inni os nad ydynt yn gwneud.

Rydym yn dal i weithio ag Aelodau o’r Senedd a phleidiau gwleidyddol, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd a sefydliadau cenedlaethol y GIG. Mewn gwlad mor fach, mae cydweithio’n bwysicach nag erioed, ac rydym yn ymuno â chydweithwyr mewn colegau brenhinol eraill a’r trydydd sector yn aml i wneud yn siŵr bod ein negeseuon yn cael eu clywed ar y brig. Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi cael blwyddyn brysur arall yn y cyfryngau, gyda dros 100 o gyfweliadau wedi’u darlledu gan y BBC, S4C ac ITV Wales, a llawer o sylw hefyd ar-lein ac mewn print. Diolch o galon i’r holl gydweithwyr a gytunodd i gael eu cyfweld, gan gynnwys Dr Hilary Williams, Dr Dai Samuel, Dr Sam Rice, Dr Sacha Moore a llawer mwy. Rydym yn gobeithio eich bod yn teimlo eich bod yn cael eich cynrychioli ar y llwyfan cenedlaethol a’ch bod yn gweld eich hunain yn cael eich adlewyrchu yn y cyfryngau.

Ac i gloi …

Diddorol, heriol a boddhaus - dyna sut y buaswn yn disgrifio’r rôl hon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf yn gobeithio’n fawr fod fy ymdrechion wedi cael rhyw effaith, a fy mod wedi gallu eich cynrychioli yn y ffordd yr hoffech gael eich cynrychioli. Rwyf yn gobeithio eich bod yn teimlo ein bod wedi gwrando a gweithredu ar yr hyn rydych wedi’i ddweud wrthym. Rwyf yn falch o alw fy hun yn feddyg, ac rwyf wedi fy nghyffwrdd gan ymroddiad, ymrwymiad a’r gwaith eithriadol rwyf yn ei weld ymhlith meddygon yng Nghymru.

Mae is-lywydd Cymru fel arfer yn ymddiswyddo ym mis Rhagfyr, ond mae gen i ychydig fisoedd o ras. Rwyf yn edrych ymlaen at gwblhau rhai prosiectau ac at drosglwyddo rhai eraill i fy olynydd. Pwy bynnag fydd yn fy nilyn, byddant yn arwain portffolio cyffrous! Mae enwebiadau bellach wedi cau ar gyfer etholiadau uwch swyddogion yr RCP am 2023 a byddwn yn cysylltu â chi yn y flwyddyn newydd gyda rhagor o fanylion am y broses bleidleisio.

Yn y cyfamser, eleni cafwyd blogwyr gwadd ar gyfer bwletin Cymru gyda chyfraniadau gan Dr John Glen, Dr Orod Osanlou, Dr Jamie Duckers a llawer mwy. Byddai’n ddiddorol clywed eich barn am fy nghylchlythyr – gadewch imi wybod os oes gennych unrhyw syniadau neu os hoffech gyfrannu.

Cadwch yn ddiogel.

Dr Olwen Williams OBE
Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru