Blog

21/06/23

21 June 2023

Blog olaf Olwen | 3 blynedd o newid radical

Rydw i wedi gweld datblygiadau enfawr mewn meddygaeth glinigol. Rydyn ni wedi symud o ‘ofal mewn gwelyau’ (ie – nôl yn yr 1980au, pythefnos o orffwys mewn gwely oedd y driniaeth arferol ar gyfer strôc a thrawiad ar y galon) i gofleidio ‘awr euraidd’ ymyrraeth. Hyd yma, rydw i wedi byw a gweithio drwy ddau bandemig mawr byd-eang – HIV/AIDS a COVID-19 – ac ar ôl meddwl am y gwersi a ddysgwyd, a'r rhai sydd eto i'w hystyried, mae’n fy atgoffa bod stigma yn deillio o ofn ac anwybodaeth.

Rydw i hefyd yn cael fy nharo gan ba mor gaeth ydyn ni i’r status quo. Sut ddylen ni ailfeddwl y ffordd rydyn ni’n darparu gwasanaethau a hyfforddi meddygon y dyfodol? Mae Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) yn gwybod bod angen i ni newid ac addasu i ffyrdd newydd o weithio yn y GIG yng Nghymru ac rydyn ni eisiau eich syniadau chi i ddylanwadu ar sut rydyn ni’n gwneud hynny: yn gynharach eleni fe wnaethom gyhoeddi Driving change together, sy’n dadlau dros Weithrediaeth GIG yng Nghymru o dan arweiniad clinigol mewn partneriaeth â chleifion a’r trydydd sector. Rydyn ni bellach yn gweithio gyda byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhai canllawiau arfer da ar gyfer rhwydweithiau clinigol strategol.

Nid fi yw’r unig un sy’n gofyn y cwestiynau hyn. Mae Comisiwn Bevan yn cynnal cynhadledd fis nesaf i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed, lle byddan nhw’n gofyn, ‘ble nesaf i iechyd a gofal?’ Byddai fy atebion fy hun yn cynnwys sicrhau gweithlu cadarn drwy hyfforddi, recriwtio a chadw meddygon, gwreiddio arweinyddiaeth dosturiol ar draws y system a mynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd ac anghydraddoldebau iechyd. Rwy’n gwybod ei fod yn ofyn mawr, ond mae angen gweledigaeth ar arweinyddiaeth – mae’n llywio popeth.

Wrth sôn am ben-blwydd y GIG yn 75 oed, rydyn ni’n ymuno â cholegau brenhinol eraill a chyrff proffesiynol yng Nghymru i lansio darn newydd o waith ar gefnogi staff iechyd a gofal mewn digwyddiad galw heibio gyda gwleidyddion yn y Senedd. Cadwch lygad amdanom yn y newyddion (gobeithio) ar 4 Gorffennaf!  

Bydd y rhai craff yn eich plith wedi sylwi bod y pandemig wedi cyd-daro bron yn union gyda fy nghyfnod fel Is Lywydd, a gorfodwyd tîm Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru i ymgysylltu mewn ffordd hollol wahanol gyda’n haelodau. Rwy'n berson cymdeithasol iawn, felly roedd symud i gyfathrebu’n rhithiol yn gam dewr i fi, ond fe wnes i sylweddoli’n go fuan bod cyfarfodydd ar-lein yn dod â phobl at ei gilydd yn effeithiol ac effeithlon ar adeg pan roedd pawb yn teimlo’n fregus iawn. Er gwaethaf fy amheuon cychwynnol, fe wnes i gofleidio’r newid, gan sylweddoli ei bod yn arbennig o bwysig i gysylltu â'n meddygon dan hyfforddiant a oedd angen cefnogaeth ac arweiniad. Os mai pwrpas arweinyddiaeth yw grymuso eraill a sicrhau eu llwyddiant, yna gobeithio bod fy nghefnogaeth yn ystod y pandemig wedi cael rhywfaint o effaith. Wedi dweud hynny, does dim byd yn well na chyfarfod wyneb yn wyneb er mwyn cael rhwydweithio, rhyngweithio’n gymdeithasol ac ambell gwtsh.

Sy’n fy arwain at ymweliad llywyddol diweddar ag Ysbyty Athrofaol y Faenor yn ne ddwyrain Cymru. Yn ei hymweliad cyntaf erioed â Chymru, ymunodd Dr Sarah Clarke â Dr Hilary Williams, Dr Vivek Goel a’r tîm lleol i gwrdd â’r hyfforddeion, meddygon arbenigol, cymdeithion meddygol a meddygon ymgynghorol yng Nghwmbrân. Diolch o galon i'r tîm fu’n trefnu - yn enwedig Dr Khalid Ali, tiwtor y coleg a Dr Sacha Moore, tiwtor cyswllt y coleg – am eu holl waith caled yn rhoi’r diwrnod at ei gilydd.

Efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio, yn ystod ymweliad 2021 o dan arweiniad Syr Bod Goddard, fe glywsom amrywiaeth o bryderon gan glinigwyr lleol a oedd weithiau'n peri gofid. Ers hynny, mae  tîm Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru wedi gweithio’n agos gyda’r bwrdd iechyd ac er nad oeddwn yn gallu mynychu’r ymweliad oherwydd amgylchiadau annisgwyl, roeddwn wrth fy modd o glywed bod meddygon dan hyfforddiant yn dweud eu bod yn teimlo'n llawer mwy diogel ac yn hapusach yn gweithio yno nawr, gan ddweud: ‘ar adeg pan roedden ni’n brwydro i gael ein clywed, gwrandawodd y RCP a’n cefnogi ni. Ac rydyn ni (a byddwn ni wastad) yn ddiolchgar iawn am hynny.’ Rydw i’n falch bod y coleg wedi gallu codi llais ar ran ein cymrodyr a’n haelodau ar yr achlysur hwnnw, ac mewn nifer o sefyllfaoedd eraill yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf. Rydyn ni’n gorff aelodaeth wedi’r cyfan, yma i gefnogi ar eich rhan, tra'n addysgu, gwella a dylanwadu am ofal gwell i gleifion.

Er y gallwn restru heriau a llwyddiannau’r 3 blynedd a hanner ddiwethaf, byddai’n well gen i  ddweud wrthoch chi am yr hyn rydw i wedi’i ddysgu amdanaf fy hun ac am arweinyddiaeth. Rydw i wedi dysgu i fod yn ddiymhongar ac yn ddewr; rydw i'n driw i'm gwerthoedd; rydw i'n anelu at fod yn dosturiol a chyflwyno fy hunan fel y person ydw i (iawn, nid pawb sy’n fy hoffi i, ond dydw i ddim yn y swydd i gael fy hoffi!). Rydw i’n ddireidus dan bwysau! Mae buddsoddi ynof fy hun drwy  hyfforddi yn cadw fy nhraed ar y ddaear, fel mae cael mentor a gofyn am gyngor doeth. Mae bod yn chwilfrydig, bod â meddwl agored a pharhau i ddysgu wedi bod yn hanfodol. Ni ddywedodd neb fod bod yn arweinydd yn dasg syml, ond mae arweinyddiaeth yn rhywbeth ar y cyd, ac heb dîm sy'n rhannu'ch gweledigaeth, ni fyddwch yn cyflawni'ch nodau.

Mae tîm pwyllgor gweithredol RCP Cymru Wales wedi bod yn anhygoel. Hoffwn ddiolch i Mick, Vivek, Hilary, Sam a Ben yn eu rolau fel ymgynghorwyr rhanbarthol – maen nhw wedi ehangu ein cyrhaeddiad drwy gynnal cyfarfodydd tîm rhanbarthol rheolaidd gyda thiwtoriaid colegau, trefnu ein  cyfarfodydd Cyswllt RCP Connect gyda chymrodyr ac aelodau a hwyluso ymweliadau Llywydd ac Is Lywydd y RCP i ysbytai lleol.  

Rydw i wedi cael cefnogaeth aruthrol gan dîm RCP Cymru Wales – mae Lowri yn llawn egni a bu’n bleser gweithio gyda hi. Mae ei hymrwymiad i sicrhau bod cleifion wrth wraidd popeth a wnawn mor amlwg yn yr holl gyhoeddiadau ac adroddiadau a gyhoeddwn. Diolch o galon.

Mae digwyddiadau a sgiliau trefnu Jacqui yn anhygoel; er gwaetha’r cyfnod clo, cynhaliwyd ein digwyddiad blynyddol Y Diweddaraf mewn Meddygaeth a’r cystadlaethau poster yn ddidrafferth, a phan godwyd y cyfyngiadau yn y pen draw, trefnodd seremoni fythgofiadwy i gymrodyr ac aelodau yng Nghymru a chynhadledd wyneb yn wyneb. Mae cymaint o waith yn digwydd y tu ôl i'r llenni, ac rwy’n codi llwncdestun i ti, Jacqui.

Mae cymaint o bobl yr hoffwn ddiolch iddyn nhw, ond yn bennaf, diolch i chi fel cymrodyr ac aelodau am fod yn rhan o deulu’r RCP. A fyddwn i'n gwneud y rôl eto? Byddwn, heb os - ond tro Hilary yw hi nawr i arwain RCP Cymru Wales ac rydw i’n gwbl hyderus y bydd hi’n wych.  

I gloi, gobeithio eich bod wedi mwynhau fy mlogs misol. Mae’r wenoliaid wedi cyrraedd Llanelwy, mae’r gerddi llysiau a blodau yn edrych yn anhygoel, mae fy niadell o ddefaid Balwen wedi’u cneifio, ac rwy’n chwilio am faharen a charafán cyn tymor wyna flwyddyn nesaf!

Am y tro olaf, cadwch yn ddiogel, gofalwch amdanoch chi eich hun a chydweithwyr a byddwch yn ofalus yn byd.

Dr Olwen Williams OBE
Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru.