Dyma Dr Olwen Williams yn myfyrio ar gynhadledd flynyddol lwyddiannus arall ar gyfer yr RCP, yn tynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud gan y tîm Gofal meddygol - ysgogi newid, ac yn mynegi pryder am gyffredinrwydd rhywiaeth ym maes meddygaeth.
Mae cysylltu â'n gilydd mor bwysig. Mae’n rhoi synnwyr o berthyn i ni, yn caniatáu rhannu gwerthoedd a dysgu – a chyflawnodd Med 2023 yr holl bethau hynny – a mwy. Roedd y thema cynaliadwyedd yn taro deuddeg, ac er ei bod yn bosibl nad oes gennym ddatrysiad cyflym i lawer o’r materion sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, ni ddylai hynny ein hatal rhag gwneud ymdrech ar y cyd i newid ein hymddygiad.
Mae’r RCP ei hun bellach yn rhoi cynaliadwyedd a gofal iechyd wrth wraidd popeth. Roedd hyn yn amlwg yn y gynhadledd: cawsom ein hannog i gerdded i’r lleoliad, cynigiwyd bwydlen fegan, ac ni chawsom unrhyw bapur heblaw bathodyn enw ailgylchadwy. Hefyd lansiodd y coleg bapur safbwynt newydd yn nodi ei argymhellion ar gyfer newid.
Er na wnes i geisio creu smwddi drwy ddefnyddio pŵer pedalau, mwynheais daith gerdded wyntog o amgylch Parc Regent's, dan arweiniad Ian Bullock, prif weithredwr yr RCP, a mwynheais sawl sgwrs ddiddorol gyda meddygon dan hyfforddiant am eu hopsiynau gyrfa (wrth gwrs, roeddwn yn awyddus i hyrwyddo Cymru fel gwlad wych i hyfforddi ynddi!) Gallwch gadw lle i weld y gynhadledd gyfan ar-lein o hyd, a bydd y cynnwys ar gael tan 30 Mehefin 2023.
Gofal meddygol – ysgogi newid
Mae'r hwb adnoddau newydd ei lansio Gofal Meddygol – ysgogi newid yn tynnu sylw at thema cynaliadwyedd, gydag erthyglau rhagorol ar yr argyfwng hinsawdd fel argyfwng iechyd a gwella ansawdd cynaliadwy. Rwyf hefyd yn falch iawn o ddweud bod y fenter anadlwyr ecogyfeillgar a arweiniwyd gan Dr Simon Barry yng Nghaerdydd wedi’i chrybwyll yn ystod o leiaf tair darlith yn Med 2023!
Gan mai megis dechrau mae Gofal Meddygol - ysgogi newid, mae'r tîm yn awyddus i dderbyn awgrymiadau am erthyglau neu syniadau thema; allech chi hyd yn oed wirfoddoli i fod yn 'olygydd gwadd'? Byddwn wrth fy modd pe gallem arddangos rhai prosiectau creadigol ac arloesol yng Nghymru – mae’r prif olygydd Dr Dan Smith yn awyddus i glywed gennych. Bydd Hilary Williams, ein his-lywydd etholedig dros Gymru a minnau yn dechrau arni drwy rannu blog a ysgrifennwyd gennym. Ar nodyn tebyg, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wedi lansio ymchwiliad newydd i sut mae GIG Cymru yn cefnogi pobl sy'n byw gyda chyflyrau cronig. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn wrth i ni lunio ymateb RCP: os oes gennych waith yr hoffech i ni dynnu sylw ato, neu adborth yr hoffech i ni ei gynnwys, cysylltwch â Lowri.Jackson@rcp.ac .uk.
Newid mawr yn GIG Cymru
Yn gynharach y mis hwn, lansiwyd Gweithrediaeth newydd GIG Cymru yn swyddogol i fawr ddim ffanffer. Fodd bynnag, dyma ddechrau newid arfaethedig a fydd yn effeithio ar bron bob arbenigedd meddygol: disgwylir i rwydweithiau clinigol strategol newydd a datganiadau ansawdd ysgogi gwelliant yn genedlaethol a dylanwadu ar newid yn lleol. Os nad ydych yn gwybod llawer am y trefniadau newydd eto, byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn edrych ar ein papur diweddar, Sbarduno newid gyda’n gilydd, a gymeradwywyd gan 22 o sefydliadau ledled Cymru, ac sy’n nodi’r achos dros arweinyddiaeth glinigol wirioneddol yn y system newydd.
Fel y gallwch ddychmygu, mae gweithio gyda cholegau brenhinol eraill yn rhan hanfodol o fy swydd. Mae’r RCP yn cadeirio grŵp cynghori aml-broffesiynol sy’n cynrychioli miloedd o aelodau sy’n gweithio ar draws meddygaeth, nyrsio, gwaith cymdeithasol a’r proffesiynau perthynol iechyd yng Nghymru – drwy weithio ar y cyd i godi ymwybyddiaeth a rhannu negeseuon, rydym yn gobeithio cael mwy o effaith ar benderfynwyr a gwleidyddion. Yn gynharach eleni, fe wnaethom gynnal gweithdy gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac mae’r crynodeb a’r canfyddiadau ar gael i chi eu darllen nawr. Cymerwch olwg!
Gwerthfawrogi ein cydweithwyr SAS
Unwaith eto, rwy'n falch iawn o ddweud bod ein hymgysylltiad â staff, meddygon arbenigol arbenigol ac arbenigwyr cyswllt (SAS) yn parhau. Yn ddiweddar, cynhaliom gyfarfod rhwydwaith cenedlaethol arall ar-lein, ac mae gennym siaradwyr wedi'u trefnu o'r BMA, GMC ac AaGIC ar gyfer ein cyfarfod yn yr hydref. Rwy'n annog Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru i wneud mwy yn y maes hwn, gan fy mod yn teimlo mor gryf mai meddygon SAS yw asgwrn cefn cymaint o'n gwasanaethau, a rhaid inni wneud mwy i'w cefnogi. Os hoffech gael gwybod mwy am yr hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud, darllenwch grynodeb diweddaraf ein cyfarfod rhwydwaith.
Ymchwiliad newydd gan y Senedd i gyflyrau cronig
Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wedi lansio ymchwiliad i gefnogi pobl â chyflyrau cronig. Os hoffech gyfrannu at ymateb ysgrifenedig yr RCP, cysylltwch â ni cyn dydd Mawrth 9 Mai drwy anfon e-bost at Lowri.Jackson@rcp.ac.uk.
Grŵp cyfeirio clinigol Moondance Cancer Initiative
Mae Moondance Cancer Initiative yn sefydlu grŵp cynghori clinigol arbenigol a fydd yn cynnwys diagnosteg, oncoleg, llawfeddygaeth a gofal sylfaenol. Os oes gennych ddiddordeb, ewch i'w gwefan i gael gwybod mwy neu e-bostiwch info@moondance-cancer.wales.
Dim gwastraffu!
Mae Comisiwn Bevan yn lansio menter newydd ar leihau gwastraff yn y sector iechyd a gofal. I gael gwybod mwy, ymunwch â lansiad y rhaglen mewn gweminar: 'Peidiwch â gwastraffu' ar 19 Ebrill.
Gwahoddiad i rannu barn a phrofiad o bolisïau gweithlu'r GIG
Mae Diverse Cymru wedi cael eu comisiynu gan lywodraeth Cymru a GIG Cymru i gynnal archwiliad o Bolisïau Gweithlu GIG Cymru Gyfan trwy lens gwrth-hiliaeth. Nodwyd y gwaith hwn fel cam gweithredu blaenoriaeth yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru. Maent yn gwahodd pobl Ddu, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig sy'n gweithio yn sefydliadau GIG Cymru i ymuno â grŵp ffocws neu ymateb i arolwg am eu profiadau. I gael gwybod mwy, ewch i wefan Diverse Cymru.
Er bod blog y mis hwn wedi bod ychydig yn fwy calonogol - efallai oherwydd bod yr haul wedi bod allan yn ddigon hir i mi wneud rhywfaint o arddio a helpu gyda'r wyna - rwyf wedi fy nhristau gan adroddiadau o aflonyddu parhaus a cham-drin rhywiaethol mewn rhai arbenigeddau llawfeddygol. Nôl yn yr 1980au, roedd ymddygiad rhywiaethol mewn meddygaeth yn rhemp, a phrofais i ychydig ohono, ond yn sicr dylai hynny fod yn hen hanes erbyn yr 21ain ganrif. Mae hyn wedi fy arwain i feddwl tybed sut brofiad yw hi i fenywod iau mewn meddygaeth y dyddiau hyn; gwn fod darn o waith diweddar wedi'i wneud gyda hyfforddeion cardioleg a ganfu fod rhywiaeth yn dal i fod yn broblem, ond dydw i'm yn siŵr beth arall sydd ar gael.
Does dim lle i rywiaeth yn y gymdeithas fodern, yn enwedig mewn meddygaeth - gadewch i ni fynd i'r afael ag ef gyda'n gilydd.
Byddwch yn ddiogel a gofalwch amdanoch eich hun.
Dr Olwen Williams OBE
Is-lywydd RCP Cymru
Ymgynghorydd mewn iechyd rhywiol a meddygaeth HIV