Blog

20/03/24

20 March 2024

Gwyliwch y bwlch | pwysigrwydd perthyn

Dr Hilary Williams NEW

Y

n ddiweddar, cefais alwad sydyn gan lawfeddyg yn fy nhîm amlddisgyblaethol. Roedden nhw eisiau trafod sefyllfa heriol iawn gyda chlaf ifanc mewn ysbyty hollol wahanol. O fewn tri munud roeddem wedi cyfnewid gwybodaeth allweddol ac wedi cytuno ar gamau nesaf a phenderfyniadau clinigol clir.

Rwy’n adnabod y claf, roeddwn i wedi edrych ar y sganiau, a siaradais â’n tîm oncoleg acíwt. Yn hollbwysig, mae yna ymddiriedaeth a dealltwriaeth go iawn rhwng fy nghydweithiwr llawfeddygol a minnau, sy’n ein galluogi i weithio gyda’n gilydd. Ond dydw i ddim ar gael 24/7, ac wrth i nifer y cleifion rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw gynyddu, felly hefyd y risg o ofal tameidiog, ac efallai y byddwn ni’n colli golwg ar y claf wrth galon ein gwaith.

Nid yw hyn yn hawdd, a chrynhowyd profiad ein cleifion a thimau cleifion mewnol acíwt gan adroddiad diweddar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a ganfu:

‘ar unrhyw gyffordd yn llwybr gofal a thriniaeth claf, mae potensial enfawr ar gyfer oedi, oedi mewn triniaeth, a risg yn codi’n gyffredinol nad yw yno ar adegau eraill.’

Rwyf yn dod yn ôl dro ar ôl tro at fater cleifion yn ‘disgyn rhwng bylchau.’

Rwy’n amau’n gryf nad yw hyn yn unigryw i Gymru. Mae’n hawdd disgrifio problemau’r GIG ym mhob un o’r pedair gwlad, a hyd yn oed ar ôl ystyried nodweddion cyflenwi lleol, mae’r atebion yn aml yr un fath yn fras. Yn wir, yr hyn sydd ei angen arnom yw ffocws llwyr ar weithredu a chyflawni newid. (Yn anaml iawn y mae’r ateb yn golygu ailstrwythuro!)

Nid yw’r safon bresennol, lle mae cleifion yn cael eu symud i sawl ward, neu'n aml yn dod yn 'allgleifion' meddygol ar y ward, gan gynyddu cymhlethdod i dimau a risgiau i gleifion, yn dderbyniol.

Diwygio hyfforddiant cylchdro

Ond beth am sut rydyn ni’n gweithio ac yn hyfforddi? Rwyf wedi bod yn siarad â’n hyfforddeion a’m ffrind a’m cydweithiwr, uwch sensor ac is-lywydd addysg a hyfforddiant Coleg Brenhinol y Meddygon, Dr Mumtaz Patel, am bosibiliadau go iawn diwygio agweddau ar hyfforddiant cylchdro. Gallai byw a gweithio mewn llai o lefydd helpu bywydau hyfforddeion mewn gwirionedd; ond a allai cleifion elwa hefyd?

Rydw i’n cofio hyfforddiant cylchdro. Yn sicr, roedd manteision o weithio gyda thimau newydd ond roeddech chi’n dechrau’r diwrnod yn teimlo braidd yn nerfus yn yr wythnosau cyntaf. Roedd yn cymryd amser i ddysgu sut i gyrraedd yno, ble i adael eich cot a’ch bag, ble i wneud paned o de. Ond, yn bwysicaf oll, efallai nad oeddech chi’n adnabod eich cydweithwyr ac nad oedden nhw’n eich adnabod chi. Nid dim ond y tîm agos, ond rhwydweithiau ehangach hanfodol. I mi ym maes oncoleg, rwy’n sôn am radiolegwyr, llawfeddygon, gofal critigol, gofal lliniarol a llawer mwy.

Mewn undeb mae nerth tîm clinigol, ac mae gan bob arbenigedd gydweithwyr a gwasanaethau allweddol maent yn dibynnu arnynt. Mae bob amser yn cymryd amser i ymgartrefu mewn lleoliad clinigol newydd; i feithrin perthnasoedd nid yn unig gyda chlinigwyr, ond porthorion, ysgrifenyddion, cymorth digidol; i wybod ble i ddod o hyd i rywfaint o gymort; ac i ddod o hyd i deimlad o berthyn.

Drwy leihau sawl gwaith mae angen i hyfforddeion fynd drwy’r broses gynefino neu gylchdroi i ysbytai newydd, gallwn rhoi mwy o amser iddynt ofalu, i feithrin rhwydweithiau pwysig, a dysgu gan ein huwch glinigwyr (a gyda nhw).

Mae tîm Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru yn cydnabod mai, fel uwch glinigwyr, u’n o’n prif swyddi yw gwneud penderfyniadau, rheoli risg a helpu i lywio cleifion drwy system gymhleth iawn. Mae angen i’n rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y dyfodol gael y cyfle i feithrin sgiliau i ddeall taith gyfan y claf, magu hyder wrth arwain y broses o wneud penderfyniadau, ac yn hollbwysig, mae’n rhaid iddynt ddysgu sut i ddod yn aelod gwerthfawr a dibynadwy iawn o dîm.

Wrth i ni ddod yn fwy profiadol – ac mae hyn yn berthnasol i bob meddyg – rydyn ni’n tueddu i fod yn well am farnu pryd i wneud prawf arall neu wneud penderfyniad ar sail yr wybodaeth sydd gennym yn barod. Rydym yn ymddiried yn ein set sgiliau ein hunain yn hytrach na chyfeirio at gydweithiwr. Rydyn ni’n deall y canllawiau, ond hefyd beth sydd orau i’n claf. Dyma’r doethineb clinigol rydyn ni’n ei ddatblygu pan fyddwn ni’n dod yn rhan o dîm.

Mae llywio drwy ysbytai newydd a systemau newydd yn cymryd llawer o amser, ac mae hynny’n golygu llai o amser gyda chleifion. Dadl bwysig arall yw a ddylai myfyrwyr meddygol yn eu blwyddyn olaf weithio fel cynorthwywyr clinigol. Mae cael eich talu a dysgu i lywio lleoliadau clinigol, wedi'i gydbwyso â hyfforddiant priodol, yn dangos manteision cynnar clir i fyfyrwyr a chleifion fel ei gilydd.

Parhad gofal a rhyddhau cleifion yn effeithiol

Her arall a glywn yw mai anaml y bydd hyfforddeion mewn un lle yn ddigon hir i fynd i’r afael â phroblem, rhoi newid ar waith a gweld y manteision. Ond beth os oeddech chi mewn un lle i weithio gyda thimau lleol i wneud newid, a gweld gofal cleifion yn gwella? A all lygaid newydd helpu gyda datrys hen broblemau?

Ond nid yw parhad gofal yn ymwneud â’r hyn sy’n digwydd yn ein hysbytai yn unig. Mae ein hyfforddeion yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ond dim ond un rhan o’r gofal rydyn ni’n ei ddarparu ydyn nhw, ac maen nhw’n rhan o system lawer ehangach. Sut ydyn ni’n helpu cleifion a theuluoedd i adael yr ysbyty gyda’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i fyw’n dda gartref a chysylltu â gwasanaethau lleol pan fo angen?

Mae llawer wedi newid mewn meddygaeth, ond rywsut mae’n ymddangos bod adroddiad rhyddhau'r claf wedi cael ei adael ar ôl. Rwy’n edrych ymlaen at drafodaethau gyda chydweithwyr ynghylch sut y gallwn wneud pethau’n iawn o ran rhyddhau cleifion yn 2024, gyda safbwyntiau gan Dr Inder Singh, Dr Karl Davis a’r meddyg teulu, Dr Rowena Christmas. Cadwch eich llygaid ar agor.

Ymunwch â ni yn Medicine 24 pan fyddwn yn canolbwyntio ar y set sgiliau cyffredinol. Rydyn ni bob amser yn croesawu cyfraniadau gan yr ysbytai llai (rydyn ni wrth ein bodd â’r rheini yng Nghymru), lle rydyn ni’n gwybod bod llawer o’n cleifion hŷn a mwy difreintiedig yn cael gofal.

A daliwch ati i siarad â’ch ffrindiau a’ch cydweithwyr. Mae’n gyfnod anodd, ond po fwyaf o newid sy’n cael ei arwain yn glinigol, yn hytrach na llwyddiannau cyflym ac ad-drefnu, y mwyaf tebygol ydyw o aros.

Dr Hilary Williams

Vice president for Wales

Hilary Williams 1 (2)