Blog

27/08/25

27 August 2025

‘Mwy na Geiriau: y ddarpariaeth Gymraeg o fewn gofal iechyd.’ (More Than Words: the Welsh provision within healthcare)

Welsh Senedd

Fel siaradwr Cymraeg, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw gallu dweud ychydig eiriau o leiaf wrth rywun yn ei famiaith, yn enwedig ar adeg pan mae'n teimlo'n fregus, yn ofnus neu'n byw gyda dementia. Ydyn ni i gyd yn gwerthfawrogi hynny? Os felly, beth ydyn ni'n ei wneud am y peth?

Rydw i newydd dreulio wythnos ddiddorol iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam – gwledd ddiwylliannol yn Gymraeg, lle'r oedd y pwnc yn uchel ar yr agenda. Dros y chwe mis diwethaf rydw i wedi cael y fraint o gadeirio'r pwyllgor cynllunio lleol ar gyfer y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae arsylwi a chymryd rhan yn rhai o'r gweithgareddau yn y pentref wedi bod yn werth chweil, yn enwedig gan fy mod wedi cael y fraint o gadeirio trafodaeth banel ar 'Mwy Na Geiriau: y ddarpariaeth Gymraeg o fewn gofal iechyd’. Sesiwn oedd hon ar yr hyn sydd ar gael i fyfyrwyr ym mhob maes gofal iechyd i'w helpu i ddeall pwysigrwydd y Gymraeg, ac i roi cyfle iddynt ddysgu Cymraeg.

Roeddwn i’n llawn edmygedd wrth weld y gwaith sy'n cael ei wneud gan Brifysgol Bangor, Prifysgol Wrecsam ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru i geisio cyflawni cynllun Llywodraeth Cymru i gryfhau gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Yn aml, nid oes digon o amser yn cael ei neilltuo i ddysgu Cymraeg – ond mae'r cynnig wedi'i gynnwys yn y cwricwlwm meddygol ym Mhrifysgol Bangor.

Er hynny, nid ar lefel israddedig yn unig y mae angen i ni ganolbwyntio. O fewn Byrddau Iechyd Lleol, mae swyddogion iaith Gymraeg ar gael i'ch cefnogi chi i ddysgu, ac i sicrhau eich bod chi ar y trywydd iawn gyda'r ‘cynnig gweithredol’ o'r Gymraeg. A ydych chi’n gwybod beth sy'n digwydd yn eich Bwrdd Iechyd Lleol? Oeddech chi'n gwybod bod grŵp – Iaith Mewn Iechyd – ar gael drwy CEDAR Hafan - CEDAR - Canolfan ar gyfer Gwerthuso Gofal Iechyd, a all eich helpu chi i brofi cyfieithiadau o ddogfennau meddygol, fel holiaduron?

Hefyd yn yr Eisteddfod, lansiodd Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol | Dysgu Cymraeg gwrs cynefino ar gyfer meddygon rhyngwladol a gweithwyr gofal iechyd eraill ynghylch y Gymraeg a diwylliant Cymru, yn ogystal â chwrs 'Croeso' ar sut i gyfarch unigolion mewn lleoliadau gofal iechyd. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am 'Mwy na Geiriau', ewch i: ‘Mwy na Geiriau’. Ar fater arall, 'Y Gymdeithas Feddygol', a sefydlwyd 50 mlynedd yn ôl, yw'r gymdeithas feddygol sy'n hyrwyddo'r Gymraeg ym maes gofal iechyd. Mae'n cynnal cynhadledd ddwywaith y flwyddyn, ac mae'n agored i fyfyrwyr meddygol ac i feddygon.

Dechreuais y blog hwn drwy ddatgan fy mod yn siaradwr Cymraeg, fodd bynnag, gallai fy newisiadau o ran sut rwy'n dymuno defnyddio'r iaith yng nghyd-destun fy ngofal fy hun fod o ddiddordeb i chi. Y cyfarchion a’r sgyrsiau anffurfiol – yn Gymraeg plîs! Ond mewn ymgynghoriadau meddygol difrifol, mae’n well gen i’r rhain gael eu cynnal yn Saesneg. Dydw i ddim yn arbenigo mewn termau meddygol technegol Cymraeg! Felly, rhaid cael dewis, hyblygrwydd a 'chynnig gweithredol' o'r Gymraeg.  

Yn olaf, mae angen i mi ddatgan fy mod yn aelod o fwrdd cynghori 'Mwy na Geiriau' Llywodraeth Cymru. Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â mi yn olwen.williams@wales.nhs.uk

Diolch am ddarllen y blog. Diolch yn fawr i chi am ddarllen y blog.

I gloi, dyma neges gan Hilary Williams, Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru:

Mae gennym ni gydweithwyr gwych yng Nghymru, a'r mis hwn hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Dr Inder Singh wrth iddo gamu'n ôl o'i swydd fel Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi.  Bydd Inder yn parhau i fod yn Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Esgyrn yng Nghymru, yn ogystal â gyrru gwelliannau cenedlaethol mewn atal toresgyrn a gofal osteoporosis – gan arwain y gwaith o weithredu Datganiad Ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer Osteoporosis ac Iechyd Esgyrn, a chyflwyno Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn cyffredinol ledled Cymru.

Dr Olwen Williams OBE

Former RCP vice president for Wales

Dr Olwen Williams