The Royal College of Physicians’ new report, Rising to the challenge: Improving acute care, meeting patients’ needs in Wales, will be launched today (Wednesday 12 November 2014).
Following the publication of last year’s ground-breaking RCP Future Hospital Commission report, Caring for medical patients, senior consultants working in the Welsh NHS have been working to address growing concerns about the current standard of hospital care in Wales.
In the new RCP report, senior doctors are calling for:
- A new whole-system approach to reconfiguration
- change must be patient centred, clinically led and evidence based, and must not be about cutting costs
- change should be based on the Future Hospital model of care in which care comes to the patient and is coordinated around their needs
- Substantial investment in the Welsh NHS
- our hospitals are under-resourced and under pressure – an increase in funding is needed
- health boards and politicians must support clinicians to develop innovative solutions to the NHS crisis, especially in rural and remote areas
- A new focus on developing and supporting the medical workforce
- it is time for a national medical workforce and training plan for Wales, including a new strategic approach to recruitment
- junior doctors must be encouraged to stay in Wales with new training pathways, improved workload and more clinical leadership opportunities
Led by the RCP vice president for Wales, Dr Alan Rees, the RCP Wales team has produced a range of recommendations across five key areas:
- organising safe, effective care around the patient
- removing barriers to patient-centred care
- supporting and developing the medical workforce
- training the next generation of physicians
- Using information to support excellent care.
The report also includes five innovative case studies on topics including redesigning the local hospital, reconfiguring medical training, and telemedicine in a rural area.
These have been gathered following site visits to meet physicians and trainees at hospitals across Wales, including Prince Philip Hospital, the Royal Gwent Hospital, Bronglais Hospital, Royal Glamorgan Hospital and Glan Clwyd Hospital.
‘Rhaid i Wleidyddion wrando ar glinigwyr a chaniatáu iddynt arwain’: Coleg Brenhinol y Meddygon yn cyhoeddi adroddiad newydd
Bydd adroddiad newydd Coleg Brenhinol y Meddygon, Rising to the challenge: Improving acute care, meeting patients’ needs in Wales, yn cael ei lansio heddiw (dydd Mercher 12 Tachwedd 2014).
Yn dilyn cyhoeddi adroddiad arloesol Comisiwn Ysbytai’r Dyfodol, Coleg Brenhinol y Meddygon y llynedd, o’r enw Caring for medical patients, mae uwch ymgynghorwr sy’n gweithio yn GIG Cymru wedi bod yn gweithio ar roi sylw i'r pryderon cynyddol am safon y gofal mewn ysbytai yng Nghymru ar hyn o bryd.
Yn adroddiad newydd Coleg Brenhinol y Meddygon, mae uwch feddygon yn galw am y canlynol:
- Dull gweithredu newydd ar gyfer y system gyfan ar gyfer ad-drefnu
- Rhaid i newid ganolbwyntio ar y cleifion, rhaid iddo gael ei arwain yn glinigol a bod yn seiliedig ar dystiolaeth, ac ni ddylai ymwneud â thorri costau.
- Dylai newid fod yn seiliedig ar fodel gofal Ysbyty’r Dyfodol, lle daw gofal at y claf, ac mae’n cael ei gydlynu o amgylch ei anghenion.
- Buddsoddi sylweddol yn GIG Cymru
- Nid oes digon o adnoddau yn ein hysbytai, ac maent o dan bwysau – mae angen rhagor o gyllid.
- Rhaid i fyrddau iechyd a gwleidyddion gefnogi clinigwyr i ddatblygu atebion arloesol i’r argyfwng yn y GIG, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell.
- Ffocws newydd ar ddatblygu a chefnogi’r gweithlu meddygol
- Mae’n amser cael cynllun hyfforddi a gweithlu meddygol cenedlaethol i Gymru, sy’n cynnwys dull gweithredu strategol newydd ar gyfer recriwtio.
- Rhaid annog meddygon iau i aros yng Nghymru gyda llwybrau hyfforddi newydd, gwell llwyth gwaith a rhagor o gyfleoedd ar gyfer arweinyddiaeth glinigol.
O dan arweiniad is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru, Dr Alan Rees, mae tîm Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru wedi paratoi amrywiol argymhellion mewn pum maes allweddol:
- trefnu gofal diogel ac effeithiol o amgylch y claf
- cael gwared ar y rhwystrau rhag darparu gofal sy’n canolbwyntio ar y claf
- cefnogi a datblygu’r gweithlu meddygol
- hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o feddygon
- defnyddio gwybodaeth i gefnogi gofal rhagorol.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys pum astudiaeth achos arloesol ar bynciau sy’n cynnwys ail-ddylunio’r ysbyty lleol, ad-drefnu hyfforddiant meddygol a thelefeddygaeth mewn ardal wledig.
Mae’r rhain wedi’u casglu ar ôl ymweld â meddygon a hyfforddeion mewn ysbytai ledled Cymru, gan gynnwys Ysbyty’r Tywysog Philip, Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Bronglais, Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty Glan Clwyd.